Honiad o hiliaeth gan gyn-chwaraewr Cymru a'r Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Martyn MaddenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Martyn Madden yn chwarae i'r Scarlets yn 2001

Mae'r heddlu'n ymchwilio i honiad bod cadeirydd clwb rygbi wedi postio neges hiliol wrth sôn am gyn-chwaraewr rhyngwladol.

Mae Martyn Madden, cyn-brop y Scarlets a enillodd bum cap dros Gymru, yn honni fod Andrew Tellem o Glwb Rygbi Pen-y-bont Athletic wedi gyrru llun o gorila mewn neges i grŵp y tîm cyntaf ar wefan WhatsApp.

Dywedodd Mr Madden, sy'n 44 oed, fod "unrhyw sylw hiliol y dyddiau yma ddim yn jôc".

Mae Mr Tellem wedi gwrthod gwneud sylw. Dywedodd y clwb eu bod nhw hefyd yn ymchwilio i'r mater.

Ymateb 'annerbyniol'

Daeth y neges i sylw Mr Madden gan ei lysfab, sy'n chwarae i'r clwb ac yn aelod o'r grŵp WhatsApp ble cafodd y neges ei bostio.

Aeth Mr Madden ymlaen i ddweud ei fod wedi herio Mr Tellem yn y clwb, ac yn honni fod Mr Tellem wedi cadarnhau fod y neges amdano ef.

Y diwrnod canlynol fe ysgrifennodd Mr Madden at y clwb gan obeithio y bydden nhw'n gweithredu, ond dywedodd fod ymateb y clwb yn "annerbyniol".

"Dydw i ddim hyd yn oed wedi cael ymddiheuriad gan y clwb," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Martyn Madden fod cyn-chwraaewyr wedi cysylltu ag ef ar y cyfryngau cymdeithasol wedi'r digwyddiad

Mewn datganiad dywedodd Clwb Rygbi Pen-y-bont Athletic eu bod wedi derbyn cwyn gan Mr Madden, eu bod yn ymchwilio i'r mater ac "yn delio yn briodol gyda'r gŵyn cyn gynted â phosib".

"Mae'r clwb hefyd wedi cael gwybod bod Mr Madden wedi cwyno i'r heddlu ac i Undeb Rygbi Cymru.

"Ni fyddai'n briodol felly i'r clwb ychwanegu unrhyw beth pellach ar hyn o bryd, ond os fydd un neu'r ddau o'r sefydliadau yna yn cynnal ymchwiliad eu hunain, fe fydd y clwb yn cydweithredu a chynorthwyo ym mhob ffordd y gallwn ni."

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i ddigwyddiad a adroddwyd ar 15 Awst "yn ymwneud â deunydd sarhaus yn cael ei gyhoeddi".

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod wedi cael gwybod am ymchwiliad yr heddlu.

"Byddwn yn disgwyl canlyniad hynny ac ymchwiliad mewnol y clwb cyn penderfynu os oes angen gweithredu pellach," medd yr Undeb.

"Does dim lle i hiliaeth o unrhyw fath yn rygbi Cymru."