'Angen eglurhad' gan Alun Cairns am negeseuon testun

  • Cyhoeddwyd
cairns
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffynonellau o'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Alun Cairns i gynnig "eglurhad" am negeseuon testun gafodd eu hanfon at Andrew RT Davies

Mae angen "eglurhad" ynghylch honiad Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns nad oedd "cynllwyn yn San Steffan" i gael gwared ar arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, yn ôl ffynonellau o'r blaid.

Mae BBC Cymru bellach yn gallu datgelu cynnwys neges destun gafodd eu hanfon ar ddamwain gan Mr Cairns, sy'n sôn am wneud "pob dim i'w orfodi allan nawr".

Mae Mr Cairns wedi honni bod y neges yn cyfeirio at Mark Reckless yn hytrach nag Andrew RT Davies, a ymddiswyddodd fel arweinydd ym mis Mehefin.

Ond yn ôl ffynonellau'r Ceidwadwyr, mae'r datganiad hwnnw yn "anghywir ac yn gamarweiniol".

Nid oedd Mr Cairns am ymateb.

'Dim cyfrinach'

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Sunday Politics BBC Cymru ym mis Gorffennaf, dywedodd Mr Cairns, AS Bro Morgannwg, bod y neges destun yn cyfeirio at geisio cael gwared ar Mark Reckless - AC annibynnol oedd gynt yn AS i'r Ceidwadwyr - o grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad.

Roedd Mr Reckless wedi tramgwyddo'r Torïaid yn y gorffennol drwy symud at UKIP, a hynny cyn un o gynadleddau'r Ceidwadwyr.

Dywedodd Mr Cairns ym mis Gorffennaf: "Mae'r neges rydym yn ei thrafod yn cyfeirio at Mark Reckless, a'r dymuniad i'w weld yn mynd wedi'r etholiadau lleol oedd yn digwydd ar y pryd, dim un canlyniad arall.

"Siaradais ag Andrew yn syth wedi hynny, ac mi wnes drafod gydag e wedi hynny, tan iddo benderfynu ei fod yn gadael."

Disgrifiad o’r llun,

Y neges gafodd ei gyrru ar ddamwain gan Alun Cairns

Yn ôl Mr Cairns, doedd "dim cyfrinach" am y neges, gan fod nifer yn ymwybodol o "anfodlonrwydd" ynglŷn â Mr Reckless yn ymuno gyda grŵp y Ceidwadwyr.

Yn y neges, mae Mr Cairns yn crybwyll bod Nick Bourne, gweinidog Llywodraeth y DU yn Nhŷ'r Arglwyddi a chyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad, yn "anhapus gyda cheisio cadw'n dawel, gyda'n llinell ar y cyd".

Mae'r neges hefyd yn dweud: "Mae'n meddwl y dylem wneud pob dim o fewn ein gallu i'w orfodi allan nawr. Rwy'n ymwybodol bod tipyn o hanes rhwng y ddau."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mark Reckless, nid oes unrhyw "hanes" rhyngddo a'r Arglwydd Nick Bourne

Mewn datganiad, fe wnaeth Mr Reckless wfftio unrhyw awgrym fod ganddo hanes gyda'r Arglwydd Bourne: "Dydw i erioed wedi delio gyda Nick Bourne.

"Dwi'n ymwybodol iddo gael ei wneud yn weinidog yn Nhŷ'r Arglwyddi pan oeddwn i'n AS, ond dydw i ddim yn cofio ei gyfarfod."

Dywedodd yr Arglwydd Bourne wrth BBC Cymru nad oedd yn barod i wneud sylw.

Yn sgil y datganiad, dywedodd ffynonellau o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Yn y pen draw, mae sylwadau'r Ysgrifennydd Gwladol yn anghywir ac yn gamarweiniol, o bosib er mwyn cuddio ei ran yn y cynllwynio i gael gwared ar Andrew Davies o'i swydd.

"Mae wirioneddol angen eglurhad."