Cairns: Dim cynllwyn i gael gwared ar Andrew RT Davies

  • Cyhoeddwyd
Alun Cairns

Doedd yna ddim "cynllwyn yn San Steffan" i gael gwared ar Andrew RT Davies fel arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn ôl Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns.

Honnodd Mr Davies, wnaeth ymddiswyddo ym mis Mehefin, ei fod wedi dod i wybod fod yna gynllwyn ar droed i gael gwared arno - a bod yn gwybod hynny oherwydd i neges destun gael ei anfon iddo ar gam.

Yn ôl rhai ffynonellau, Mr Cairns anfonodd y neges destun. Dyw Ysgrifennydd Cymru ddim wedi gwadu anfon y neges, ond mae'n dweud ei fod yn ymwneud â mater arall.

"Fe wnes i fwynhau gweithio gydag ef tan y diwedd," meddai Mr Cairns.

Dywedodd Mr Davies wrth BBC Cymru iddo dderbyn neges destun oedd yn "dangos fod yna gynlluniau ar droed i geisio fy nisodli."

"Rwy'n meddwl fod tôn y neges yn sôn am 'gael gwared ag e yn syth' - a chafodd ei anfon o ben arall yr M4," meddai.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Sunday Politics Wales, BBC Cymru, dywedodd Mr Cairns "yn bendant doedd yna 'run cynllwyn o San Steffan."

Dywedodd fod y neges destun dan sylw yn cyfeirio at Mark Reckless - y cyn AS Ceidwadol ac AC annibynnol gafodd ei wahodd i ymuno a'r grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad.

Fe wnaeth hynny greu ffrae o fewn y blaid Geidwadol, gan fod Mr Reckless wedi gadael y blaid i ymuno â UKIP.

Ffrae ailenwi Pont Hafren

"Mae'r neges destun rydym yn siarad ynglŷn â hi yn cyfeirio at Mark Reckless a'r dymuniad i weld o'n mynd ar ôl yr etholaethau lleol oedd yn cael eu cynnal ar y pryd, ac nid unrhyw reswm arall."

Dwedodd nad oedd yna unrhyw gyfrinach am y neges destun o ystyried yr anfodlonrwydd ynglŷn â Mr Reckless yn ymuno a'r grŵp Torïaidd.

Yn y cyfamser, mae Mr Cairns wedi mynnu fod mwyafrif o bobl o blaid ailenwi Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru - er gwaetha dau arolwg barn yng Nghymru sy'n awgrymu i'r gwrthwyneb.

Dywedodd fod yr arolygon ond wedi asesu barn ar ochr Cymru o'r bont.

Dywedodd Mr Cairns: "Yn sicr mae'r mwyafrif o fy mhlaid. Dyw'r arolygon ond wedi edrych ar un ochr y bont, yn hytrach na'r gymuned ehangach."

"Gawn ni ffocysu ar yr ymateb gan bob un yng Nghymru. Mae dwy blaid fawr wedi rhoi cefnogaeth gref," meddai, gan gyfeirio at gefnogaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones.

"Ond byddwn ni byth wedi gwneud hyn oni bai fod y Prif Weinidog a'r Blaid Lafur yng Nghymru wedi rhoi cefnogaeth gref.

"Y peth olaf oeddwn i am wneud oedd achosi trafferthion i'r Tywysog."