Dilys Price, Nain 86 oed, yn barasiwtydd ac yn fodel

  • Cyhoeddwyd
Dilys PriceFfynhonnell y llun, Helmut Lang / Alex Leese / Charlotte James
Disgrifiad o’r llun,

Dilys Price yn modelu ar gyfer Helmut Lang

Dilys Price, nain 86 oed o dde Cymru, yw parasiwtydd benywaidd hynaf y byd - ac mae hi nawr yn troi ei llaw at fodelu ar gyfer cwmni ffasiwn ryngwladol.

Mae'r gyn-athrawes nawr yn un o sêr Helmut Lang ar gyfer casgliad yr hydref, 'Women of Wales'.

Mae lluniau o Ms Price yn dawnsio ac yn chwerthin eisoes wedi'u cynnwys mewn cylchgronau byd enwog fel Grazia, i-D a The Pool.

Yn ôl Ms Price mae'r profiad wedi rhoi llwyfan iddi brofi nad oes rhaid i fywyd fynd yn ddiflas wrth fynd yn hŷn.

"Rydyn ni'n fyw, rydyn ni'n dal yn fyw. Rydyn ni'n fyw tan y dydd ein bod ni'n marw," meddai.

"Dyma fy mhwrpas nawr - i ddweud wrth bobl hŷn fel fi i gadw eu hangerdd. Mae'n rhaid bod yn weithgar."

Ffynhonnell y llun, Guinness World Records
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Ms Price record byd ar gyfer y naid parasiwt unigol hynaf gan fenyw

'Awch' am barasiwtio

Yn 54 oed ar y pryd, penderfynodd Ms Price i neidio o awyren er mwyn codi arian i elusen.

Er ei bod hi ofn uchder, dywedodd fod y profiad yno wedi cynnau tan oddi mewn iddi - ac o'r funud honno roedd hi'n gaeth.

Ers y naid gyntaf mae Ms Price wedi mynd yn ei blaen i gwblhau 1,139 naid unigol ar draws y byd, wedi iddi gael yr awch am barasiwtio.

Llwyddodd i osod record byd am y naid parasiwt unigol hynaf gan fenyw pan yn 80 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Derbyniodd Ms Price OBE am ffurfio'r elusen Touch Trust

Mae Ms Price yn dweud fod rhaid mwynhau bywyd, a'i bod hi'n fodlon troi ei llaw at unrhyw beth.

Dywedodd ei bod wedi derbyn galwad ffôn gan Helmut Lang heb rybudd, yn gofyn iddi gymryd rhan yn eu hymgyrch newydd, a'i bod hi wedi neidio ar y cyfle.

Cafodd y lluniau, sy'n rhan o'r ymgyrch yn dathlu menywod Cymru, eu cymryd mewn stryd fach ger ei chartref.

Penderfynodd Ms Price werthu ei pharasiwt yn ddiweddar gan ddweud: "Dwi'n 86 nawr ac yn teimlo na ddylwn i neidio allan o awyren yn mynd 100mya."

Er gwaetha'r penderfyniad i beidio parasiwtio, mae Ms Price yn benderfynol o aros yn heini a pharhau i weithio gyda'r elusen Touch Trust a ffurfiwyd ganddi.