Apêl i beidio camddefnyddio croesfannau rheilffordd Môn
- Cyhoeddwyd
Mae yna apêl ar yrwyr i groesi croesfannau rheilffordd yn ddiogel wedi cynnydd diweddar mewn achosion o fethu â gwneud hynny yn Ynys Môn.
Ers mis Ebrill eleni, mae 10 achos wedi eu cofnodi o bobl yn gyrru cerbydau yn fwriadol dros groesfannau yn Y Fali a Gaerwen, gan anwybyddu'r rhybuddion bod trên yn nesáu.
Dywedodd Stephen Jones, rheolwr croesfannau rheilffordd cwmni Network Rail yng Nghymru a'r gororau: "Diogelwch yw'r prif flaenoriaeth ac ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig ydy hi i bobl ddefnyddio'r croesfannau yn gywir.
"Er fe allai gyrru dros groesfan pan mae'r goleuadau'n goch neu'r rhwystrau'n dod i lawr arbed pum munud o'ch hamser, ond fe allai hefyd fod â chanlyniadau trychinebus."
Mae'r cwmni'n cydweithio'n agos gydag awdurdodau eraill i danlinellu'r peryglon i'r cyhoedd.
Peryglu bywydau teithwyr eraill
Dywedodd swyddog cymorth cymunedol (PCSO) Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn Ynys Môn, Nathan Lewis, bod croesfannau rheilffordd "yna i gadw pobl yn ddiogel", a bod yr awdurdodau "lle mae'n briodol, yn cymryd camau yn erbyn rheiny sy'n parhau i gamddefnyddio'r croesfannau yng Ngaerwen a'r Fali.
"Rydym yn deall bod aros wrth groesfan yn gallu bod yn rhwystredig, ond dydy dyfalu pa bryd mae'r trên yn dod ddim werth y risg."
Mae'r llu'n patrolio'r ddwy ardal ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru ac yn codi ymwybyddiaeth trigolion er mwyn atal damweiniau, ond yn ôl Mr Jones mae rhai gyrwyr "er gwaethaf rhybuddion, yn dal i beryglu eu bywydau trwy gamddefnyddio'r croesfannau.
Ychwanegodd: "Ddylai gyrwyr sy'n barod i dorri'r gyfraith a rhoi eu hunain ac eraill mewn perygl fod â dim amheuaeth os ydyn nhw'n cael eu dal fe fyddan nhw'n cael eu herlyn.
"Fe allai un eiliad o ddiffyg amynedd arwain at chwalu bywydau."
Mae'r neges yn cael ei hategu gan gyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid cwmni Trenau Arriva, Bethan Jelfs, sy'n dweud bod camddefnyddio croesfannau hefyd yn peryglu bywydau cyd-deithwyr a "phawb ar y trên sy'n dynesu".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2014