Dyn yn dioddef anafiadau difrifol ar ôl disgyn yn Ibiza
- Cyhoeddwyd

Disgynnodd Jack Holland o risiau ei fflat yng ngwesty Ibiza Rocks yn San Antonio
Mae dyn oedd ar wyliau yn Ibiza wedi dioddef anafiadau difrifol i'w ben ar ôl disgyn o uchder mewn gwesty.
Disgynnodd Jack Holland, 22 oed o Ystradgynlais, o risiau ei fflat yn yr Ibiza Rocks Hotel yn San Antonio fore dydd Gwener 17 Awst.
Cafodd Mr Holland lawdriniaeth ar ei ymennydd yn dilyn y digwyddiad, ac mae bellach yn "ymwybodol".
Mae ei rieni wedi hedfan allan i Ibiza, lle mae Mr Holland yn cael gofal mewn ysbyty preifat.

Ers y digwyddiad, mae ffrindiau Mr Holland wedi codi bron i £45,000 er mwyn ei gludo nôl i'r DU i dderbyn triniaeth.
Targed gwreiddiol yr ymgyrch i godi arian oedd £25,000, ond erbyn dydd Iau roedd £44.437 wedi ei godi, gyda dros 1,000 o bobl yn cyfrannu.
Cafodd cyflwr Ms Arbourne ei ddisgrifio fel "difrifol" pan gyrhaeddodd yr ysbyty, ond yn ôl ffrind Mr Holland, Charlie Arbourne, roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus.
Mae'r heddlu wedi dechrau ymchwiliad i'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2018