'Mae cael gwyliau gyda fy ŵyr yn rhoi bywyd newydd i mi'

Mae Trevor Parry a'i ŵyr Elliott yn treulio'r haf gyda'i gilydd tra bod mam Elliott yn gofalu am ei chwaer iau
- Cyhoeddwyd
Mae achosion o blant yn treulio gwyliau'r ysgol gyda'u neiniau a'u teidiau ar gynnydd oherwydd costau byw cynyddol, medd arbenigwyr.
Gramping yw'r term Saesneg am dripiau gwersylla ble mae'r perthnasau o'r ddwy genhedlaeth yn treulio amser gyda'i gilydd.
Mae hynny'n rhan o'r duedd o dripiau skip gen (neu skip generation) ble mae plant yn mynd ar wyliau ond mae eu rhieni'n aros gartref.
Dywed Trevor Parry, 68, o Stockport, bod treulio gwyliau'r haf gyda'i ŵyr wyth oed, Elliott, yn ei garafán ym Mhorthmadog, yng Ngwynedd, "yn rhoi bywyd newydd i mi".

Mae astudiaethau wedi awgrymu rhai o'r rhesymau dros y duedd i blant fynd ar wyliau gyda'u neiniau a theidiau, medd yr arbenigwr rheoli twristaeth, Dr Linda Osti
Yn ôl Dr Linda Osti, uwch ddarlithydd rheoli twristiaeth ym Mhrifysgol Bangor, mae astudiaeth yn Unol Daleithiau America yn awgrymu bod neiniau a theidiau eisiau teithio gyda'u hwyrion am eu bod "eisiau creu atgofion".
Dywed Dr Osti bod gwyliau o'r fath yn digwydd ers blynyddoedd maith, ond mae "wedi cynyddu yn ddiweddar iawn".
Mae rhai astudiaethau, ychwanegodd, yn awgrymu bod "cynnydd sylweddol yn y math yma o deithio" yn ystod y 10 i 15 mlynedd diwethaf.
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
Mae mam Elliott, Natalie Bass, 39, yn gweithio ac yn gofalu am ei merch bump oed, Charlotte, adref tra bod ei mab a'i thad gyda'i gilydd.
Yn ystod gwyliau'r ysgol, mae rhieni Elliott a'i chwaer yn treulio'r penwythnosau gyda nhw yn y garafán cyn dychwelyd i Stockport.
Dywedodd Trevor: "Mae wedi rhoi bywyd newydd i mi na fyddwn ni wedi ei gael pe tawsn ni wedi treulio'r amser yna adref ar ben fy hun ac mae'n gwneud i mi deimlo'n ieuengach,"
Mae Elliott hefyd yn hoffi'r trefniant: "Mae'n really da," meddai.
"'Dan ni'n mynd i Bwllheli yn aml. Mae o'n gadael i mi fynd ar y reidiau yn yr arcades a 'dan ni jest yn cael hoe yn aml."

Mae Natalie Bass yn gofalu am ei merch fach adref drwy'r wythnos trwy'r gwyliau haf ond mae'r teulu'n ailymuno â'i gilydd yn y garafán ar y penwythnosau
Dywed Natalie bod cymorth ei thad yn hanfodol.
"Dwi'n edrych ar faint mae gofal plant yn mynd i gostio a gweld sut allen ni drefnu bod o ddim yn ormod o ergyd i mi yn ystod y gwyliau haf," dywedodd.
Mae hefyd, meddai, yn "hyfryd" i weld perthynas Elliott a'i daid yn dyfnhau.
"Does dim byd gwell. Dwi'n ei ddychmygu'n dweud pan mae o'n hŷn: 'Wnes i dreulio bob haf efo fy nhaid'.
"Ges i mo hynny pan ro'n i'n tyfu i fyny a dwi'n meddwl mae'n mynd i fod yn wirioneddol braf."

Dywed Avril Hackett ei bod yn gwneud pethau na fyddai yn eu gwneud fel arall oni bai bod ei hwyres Emily gyda hi
"Fy lle diogel" yw disgrifiad Avril Hackett, 76, o Warrington, Sir Gaer, o'i hafan ym Maes Carafanau Treetops ger Treffynnon, yn Sir Y Fflint.
Mae ei hwyres wyth oed, Emily, yn aros gyda hi yno yn yr haf, yn rhannol er mwyn helpu lleihau costau gofal plant.
"Dwi'n caru bod yma yn fwy na bod adra," meddai Avril, gan ategu bod yna sawl mantais arall o gael ei hwyres yn gwmni iddi.
"Mae'n eich gorfodi i wneud pethau na fysach chi'n eu gwneud pan 'dach chi ar ben eich hun," meddai.
"Fyswn i ddim yn mynd i lawr i'r traeth ar ben fy hun ond fyswn i yn mynd efo hi."

Dywed rheolwyr Maes Carafanau Treetops eu bod hwythau wedi gweld cynnydd diweddar o ran gwyliau skip gen
Yn ôl y gymdeithas British Holiday & Home Parks Association, mae llawer o'u haelodau wedi cofnodi cynnydd o ran gwyliau gramping eleni.
Ychwanegodd bod parciau gwyliau "yn gyffredinol yn cael eu hystyried yn le diogel gyda'r traffig lleiaf posib sydd yn aml yn cynnig tir helaeth i'w harchwilio".
Dywedodd Andy Walker, un o reolwyr gyfarwyddwyr Treetops: "Dwi'n ei weld yn digwydd yn fwy a mwy aml.
"Yn bendant, mae'n gyfnod anodd i bobol ac mae neiniau a theidiau eisiau helpu eu teuluoedd gymaint ag y gallen nhw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf