Achub merched 16 oed a cherddwyr Google Maps ar Gader Idris

  • Cyhoeddwyd
Tîm Achub Mynydd Aberdyfi ar Gader IdrisFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Aberdyfi

Mae dwy ferch yn eu harddegau wedi cael eu hachub ar Gader Idris ar ôl mynd i drafferthion wrth iddyn nhw gerdded gyda grŵp.

Cafodd y ddwy, oedd yn 16 oed, eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth brynhawn Mercher ar ôl cael eu canfod yn y glaw a'r niwl.

Fe ddisgynnodd un ferch ar dir ansefydlog cyn dechrau colli ymwybyddiaeth yn y tywydd gwael, ac roedd yr ail ferch yn dangos arwyddion o hypothermia.

Cafodd gweddill y criw, oedd wedi dechrau cerdded y mynydd o gyfeiriad Dolgellau, eu hebrwng lawr y mynydd yn saff.

Defnyddio Google Maps

Yn ddiweddarach yn y prynhawn, cafodd cwpl arall eu hachub ar y mynydd wedi iddyn nhw geisio ei ddringo gan ddefnyddio Google Maps.

Dywedodd achubwyr fod y ddau wedi "gwlychu i'w crwyn" pan gawson nhw eu canfod ar ôl mynd i drafferthion ar dir serth.

"Rydyn ni'n annog pobl i fwynhau'r mynyddoedd mewn modd saff a chyfrifol," meddai Graham O'Hanlon o Dîm Achub Mynydd Aberdyfi.

Ychwanegodd: "Fel adnodd ar gyfer mynyddoedd, dyw Google Maps ddim yn cynnwys digon o wybodaeth am y dirwedd i fod o ddefnydd pan mae pethau'n mynd o'i le."