Y Bencampwriaeth: Abertawe 0-1 Bristol City

  • Cyhoeddwyd
Andreas WeimannFfynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Andreas Weimann yn dathlu gôl Bristol City

Mae Abertawe wedi colli am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn wrth i Bristol City eu trechu yn Stadiwm Liberty.

Daeth unig gôl wedi dim ond 31 eiliad wrth i Andreas Weimann ganfod cefn y rhwyd.

Dim ond diolch i'r golwr Erwin Mulder yr oedd hi nad oedd yr Elyrch ymhellach ar ei hôl hi ar yr egwyl.

Daeth Matt Grimes a Mike van der Hoorn yn agos gyda chyfleoedd hwyr, ond roedd yr ymwelwyr o Fryste yn haeddu'r fuddugoliaeth.