Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-2 Bromley

  • Cyhoeddwyd
pel-droedFfynhonnell y llun, Getty Images

Llwyddodd Bromley i frwydro nôl o fod dwy gôl ar ei hôl hi i sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Wrecsam ar y Cae Ras.

Rhoddodd Mike Fondop-Talom y Dreigiau ar y blaen ar ôl hanner awr, cyn i Rekeil Pyke ddyblu'r fantais wedi 65 munud.

Funudau'n ddiweddarach sgoriodd Frankie Sutherland gic o'r smotyn i gau'r bwlch, cyn i gôl i'w rwyd ei hun gan Luke Summerfield unioni'r sgôr yn y munud olaf.

Mae'r canlyniad yn golygu fodd bynnag bod Wrecsam yn aros ar frig y tabl, a dal heb golli gêm.