Ail aur i Aled Sion Davies ym Mhencampwriaethau Ewrop
- Cyhoeddwyd
Mae Aled Sion Davies wedi ennill ei ail fedal aur ym Mhencampwriaethau Para-athletau Ewrop ar ôl dod yn fuddugol yn y gystadleuaeth taflu siot F36.
Ar ddiwrnod olaf y cystadlu yn yr Almaen, llwyddodd y Cymro i dorri record y bencampwriaeth wrth daflu pellter o 15.49m.
Roedd Davies eisoes wedi ennill aur yng nghystadleuaeth taflu'r ddisgen F64, ac mae'n un o sawl athletwr o Gymru i ddychwelyd o Berlin gyda medalau.
Yn gynharach yn yr wythnos llwyddodd Hollie Arnold i ennill aur yn y gystadleuaeth taflu gwaywffon F46, cafodd Harri Jenkins aur yn y ras gadair olwyn T33 dros 100m, ac roedd Sabrina Fortune yn fuddugol yn y siot F20.
Cafodd Rhys Jones arian yn y ras T37 100m i ddynion, tra bod Olivia Breen wedi sicrhau efydd yn y T38 100m i ferched.
Daeth Laura Sugar hefyd yn ôl gyda dwy fedal efydd, yn y T64 100m a'r T64 200m i ferched.
Mae'r Cymro Philip Pratt hefyd wedi ennill medal aur fel rhan o dîm pêl-fasged cadair olwyn Prydain oedd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Hamburg ddydd Sul.