Cosbi mwy o yrwyr nag erioed y llynedd yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
A traffic enforcement car
Disgrifiad o’r llun,

Mae defnydd y cyngor o gerbydau arbenigol wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf

Mae Cyngor Caerdydd wedi codi £4m o gyllid drwy gosbi gyrwyr sy'n troseddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - y swm mwyaf erioed.

Mae ffigyrau'r cyngor hefyd yn dangos eu bod wedi codi £2m drwy ddirwyon parcio - y swm isaf mewn pum mlynedd.

Mae cymdeithas foduro'r RAC wedi galw am arwyddion gwell ac yn dweud bod y cyngor wedi cosbi troseddau cysylltiedig â lôn fysiau i ddelio â'r gostyngiad mewn dirwyon parcio.

Dywedodd Cyngor Caerdydd bod yr arian sy'n cael ei godi yn cael ei ddefnyddio i wneud ffyrdd yn fwy diogel.

Y lleoliadau a gynhyrchodd y mwyaf o incwm yn 2017/18 oedd yr un ar Stryd y Brenin (17,163 o ddirwyon) a'r un ar ffordd Custom House (15,982).

Disgrifiad o’r llun,

Camera Ffordd y Brenin yn y brifddinas a ddaeth â mwyaf o arian i'r coffrau

Cafodd 9,000 o ddirwyon eu rhoi i bobl oedd yn gyrru ar gyffordd Heol y Porth a Stryd Wood - man lle dim ond bysiau, tacsis a beiciau sy'n cael troi i'r chwith.

Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd prin y DU sy'n cosbi pobl am fod yn llonydd mewn bocs melyn.

Cafodd y rhan fwyaf eu cosbi am y drosedd hon ar y gyffordd rhwng Ffordd Caerffili a Rhodfa Rhydhelig (2,450 o ddirwyon).

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond bysiau sy'n cael troi i'r chwith o Heol y Porth i Stryd Wood

Disgrifiad o’r llun,

Mae arwyddion wedi eu gosod yn rhybuddio gyrrwyr am bresenoldeb y camerau

Mae ymwelwyr â Chaerdydd yn cydnabod bod angen lonydd penodol ar gyfer bysiau ond mae rhai yn honni nad yw'r cyngor yn eu nodi yn ddigon clir.

Dywedodd Nicholas Lyes, pennaeth polisi ffyrdd Cymdeithas foduro'r RAC, ei bod yn ymddangos bod y cyngor yn dirwyo mwy o gerbydau sy'n symud er mwyn gwneud iawn am y diffyg yn y gyllideb troseddau parcio.

"Rhaid cael arwyddion clir, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae nifer y dirwyon yn uchel," meddai.

"Dylai cynghorau hefyd roi rhybuddion i yrwyr sy'n troseddu am y tro cyntaf.

"Dyw'r rhai sy'n gwneud camgymeriad unwaith ddim yn debygol o'i wneud eto."

Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud bod eu harwyddion yn unol â'r ddeddf, a bod hawl gan yrwyr i apelio yn erbyn penderfyniad.

Dywedodd llefarydd: "Mae'r incwm sy'n cael ei godi yn ariannu cost parcio a gweithredu dirwyon, ac mae'r hyn sy'n weddill yn cael ei drosglwyddo i'r cyfrif parcio.

"Mae'r cyfrif parcio yn talu am ddiogelu a gwella ffyrdd gan gynnwys creu mannau parcio ar gyfer pobl anabl, cyflwyno cyfyngderau cyflymder o 20mya a chreu parthau diogelwch ysgolion."