Gwrth-Semitiaeth: 'Angen gwaith caled'

  • Cyhoeddwyd
Huw Irrance-Davies

Dylai Jeremy Corbyn weithio'n "aruthrol galed" i sicrhau nad oes lle i wrth-Semitiaeth yn ei blaid, yn ôl un o'r ymgeiswyr am arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, gweinidog plant Llywodraeth Cymru, y dylai bwysleisio i aelodau y byddan nhw "allan yn syth os oes unrhyw arwydd o wrth-Semitiaeth".

Yn y cyfamser mae un arall o'r ymgeiswyr, Alun Davies wedi dweud bod y blaid wedi achosi "loes mawr" yn y gymuned Iddewig.

Mae cais wedi ei wneud am sylw gan y blaid Lafur.

Ym mis Mawrth dywedodd Mr Corbyn na fyddai'n goddef gwrth-Semitiaeth "yn nac o gwmpas ei blaid".

Ond ddydd Iau fe wnaeth yr Aelod Seneddol Frank Field ildio chwip y blaid Lafur yn San Steffan gan ddweud bod yr arweinyddiaeth yn troi'n "rym dros wrth-Semitiaeth yng ngwleidyddiaeth Prydain".

Ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales, dywedodd Mr Irranca-Davies ei fod yn gobeithio bod modd i Mr Field ddychwelyd oherwydd "ry'n ni angen pobl fel Frank o fewn y blaid".

"Mae'r gwaith mae e wedi neud yn draddodiadol ar bethau fel diwygio'r system lles... mae e'n un o'n harbenigwyr mwyaf," meddai.

'Difrod'

"Rwy'n credu bod problem gyda gwrth-Semitiaeth yn y blaid. Mae'n rhywbeth 'dwi heb weld llawer ohono, ond 'dwi wedi gweld mwy yn ddiweddar, a hynny mewn rhannau o'r blaid dydw i ddim fel arfer yn dod i gysylltiad â nhw.

"Rwy'n credu fod angen i Jeremy weithio'n aruthrol o galed i drosglwyddo neges gadarn iawn fod dim lle i wrth-Semitiaeth o fewn y blaid hon... unrhyw hiliaeth o gwbl... oherwydd y difrod mae hynny wedi creu o fewn y blaid Lafur.

"Ond yn bwysicach na hynny oherwydd yr ofn sy'n cael ei greu mewn cymunedau o gyfeillion, cydweithwyr a chyd-wleidyddion sy'n Iddewon eu hunain ac yn pendroni sut nad ydym wedi mynd i'r afael â hyn."

Roedd Mr Irranca-Davies wedi enwebu Mr Corbyn cyn y ras am arweinyddiaeth Llafur y DU yn 2015. Fe wnaeth hynny ganiatáu i enw Mr Corbyn fod ar y papur pleidleisio er nad oedd yn ei gefnogi yn yr etholiad.

Rhan o'r ffrae yw safbwynt Llafur am eu cod ymddygiad, gyda rhai yn dweud nad yw mor glir â chanllawiau'r International Holocaust Rememberance Alliance (IHRA).

Bydd y mater yn cael ei drafod ddydd Mawrth mewn cyfarfod o Bwyllgor Gweithredol Cenedlaethol Llafur y DU.

Dywedodd Mr Irranca-Davies y byddai'n "sicrhau bod diffiniad llawn yr IHRA yn cael eu mabwysiadu'n llawn gan Llafur Cymru" pe bai'n cael ei ethol yn arweinydd.

Bydd 'Sunday Supplement' yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Wales am 08:00 ddydd Sul, 2 Medi.