Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-0 Aldershot
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam yn parhau ar frig y Gynghrair Genedlaethol ar ôl curo Aldershot ar y Cae Ras.
Roedd y gêm yn ddi-sgôr ar yr egwyl er i'r Dreigiau gael y gorau o'r cyfleoedd prin yn yr hanner cyntaf.
Fe ddaeth y gôl gyntaf wedi 63 munud a pheniad hawdd Stuart Beavon o gic gornel gan Luke Summerfield.
Dyma oedd gôl gyntaf Beavon ers cyrraedd Wrecsam ar fenthyg o Coventry.
Yna fe ddyblodd Jordan Maguire-Drew y fantais wedi 78 o funudau trwy rwydo croesiad gan Summerfield ar y postyn pellaf.
Halifax fydd gwrthwynebwyr nesaf Wrecsam ar y Cae Ras nos Fawrth 4 Medi.