Pro14: Dreigiau 17 - 21 Benetton

  • Cyhoeddwyd
Aaron Wainwright o'r Dreigiau'n gwrthsefyll Tito TebaldiFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Wainwright o'r Dreigiau'n gwrthsefyll Tito Tebaldi

Roedd yna ddechrau rhwystredig i'r tymor yn y Pro 14 i'r Dreigiau wrth iddyn nhw golli o 21-17 i Benetton yn Rodney Parade.

Roedd hynny er gwaethaf cychwyn addawol a chais wedi dau funud gan yr asgellwr Dafydd Howells - un o blith wyth o chwaraewyr a wnaeth ymddangos am y tro cyntaf i'r Dreigiau ers ymuno â'r tîm dros yr haf.

Sgoriodd Rhodri Williams ail gais i'r Dreigiau wedi 74 munud i sicrhau pwynt.

Roedd yna hefyd drosiadau gan Gavin Henson a Josh Lewis a chic gosb lwyddiannus gan Henson.

Alessandro Zanni a Braam Steyn wnaeth sgorio ceisiadau'r ymwelwyr.

Dywedodd prif hyfforddwr y Dreigiau, Bernard Jackman fod perfformiad y tîm yn "wael" ac mai ei gyfrifoldeb ef oedd hynny.

"Falle ein bod heb baratoi'n iawn, falle bach yn or-bryderus, weithiau ry'ch chi'n or-awyddus i wneud rhywbeth ddigwydd."

Ychwanegodd fod camgymeriadau "annodweddiadol" wrth drin y bêl wedi rhoi gormod o gyfleoedd i'r gwrthwynebwyr a bod angen mynd ati i "gywiro'r sefyllfa" wrth ddychwelyd i'r gwaith ddydd Llun.