Pro14: Ulster 15-13 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Craig Gilroy a Sean Reidy'n ceisio atal Steff Evans o'r ScarletsFfynhonnell y llun, Inpho
Disgrifiad o’r llun,

Craig Gilroy a Sean Reidy'n ceisio atal Steff Evans o'r Scarlets

Colli o drwch blewyn ar y funud olaf oedd hanes y Scarlets yn eu gêm gyntaf yn nhymor newydd y Pro 14.

Fe sgoriodd John Cooney gic gosb wedi 79 munud i roi buddugoliaeth ddramatig i Ulster yn Stadiwm Kingspan, Belffast.

Roedd Rhys Patchell wedi rhoi'r Scarlets ar y blaen trwy sgorio cais a throsiad ond erbyn yr egwyl roedd Cooney wedi sgorio tair gic gosb i roi mantais o 9-7 i Ulster.

Roedd yna giciau cosb llwyddiannus wedyn yn yr ail hanner gan Dan Jones cyn i Cooney gael y gair olaf.

Roedd 14 o chwaraewyr y Scarlets wedi'u hanafu cyn y gêm, gan roi cyfleoedd i Clayton Blommetjies a Blade Thomson ymddangos yn y tîm am y tro cyntaf.

Fe gafodd y canolwr Jonathan Davies anaf wrth gynhesu cyn i'r gêm ddechrau ac fe wnaeth Steff Hughes chwarae yn ei le.