Gŵyl yn 'ymddiheuro' dros ffrae hiliaeth
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr Gŵyl yn Llanuwchllyn wedi "ymddiheuro am unrhyw dramgwydd" ar ôl i ddynes mewn cystadleuaeth gwisg ffansi dduo ei chroen i bortreadu cymeriad.
Roedd y gystadleuaeth yn rhan o ŵyl y pentref ym Meirionnydd a gafodd ei chynnal ddydd Sadwrn diwethaf.
Mae'n ymddangos bod y ddynes wedi peintio ei hwyneb a'i breichiau yn ddu a gwisgo fel lleian er mwyn portreadu'r cymeriad Y Lleian Ddu, neu'r Black Nun.
Yn ôl trefnwyr yr ŵyl fe wnaeth yr unigolyn newid yn syth ar ôl iddyn nhw siarad â hi.
Ddim yn hybu hiliaeth
Yn y dyddiau'n dilyn yr ŵyl fe ymddangosodd llun o'r ddynes ar wefan Facebook, ac mae BBC Cymru Fyw wedi gweld copi o'r llun hwnnw.
Erbyn dydd Mercher roedd y llun wedi cael ei dynnu i lawr.
Yn y cyfamser mae trefnwyr yr ŵyl wedi cyhoeddi ymddiheuriad ar eu tudalen nhw ar Facebook:
"Hoffai Gŵyl Llanuwchllyn sicrhau nad ydym yn hybu hiliaeth o unrhyw fath ac ymddiheurwn am unrhyw dramgwydd."
"Deliwyd â'r sefyllfa unigol ar y diwrnod ac aeth yr unigolyn i newid yn syth."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Un sy'n anfodlon â'r digwyddiad ydy'r cyflwynydd ar raglen Hansh S4C, Sam Rhys.
Ar wefan Twitter dywedodd nad "jôc ddiniwed ond hiliaeth yw hwn", ac fe rannodd gopi o'r llun gwreiddiol.
Ond mae'n ymddangos bod gwefan Twitter wedi gofyn iddo dynnu'r llun i lawr am ei fod wedi torri eu rheolau ar rannu lluniau preifat.
Wrth ymateb i sylwadau'r trefnwyr dywedodd Sam Rhys wrth BBC Cymru Fyw ei fod "yn falch bod yna ymddiheuriad".
Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol Liz Saville Roberts, a oedd yn agor yr ŵyl, ei bod hi'n "cefnogi'r ymddiheuriad y mae'r ŵyl wedi ei chyhoeddi", ac fe gadarnhaodd llefarydd ar ei rhan nad hi oedd yn beirniadu'r gystadleuaeth.