Merch fach 'yn byw ar fara menyn' wedi marwolaeth mam

  • Cyhoeddwyd
Cwest marwolaethFfynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aimee Louise Evans ei chanfod yn farw yn ei chartref ym mis Ebrill

Clywodd cwest i farwolaeth mam ifanc, sut y goroesodd plentyn tair oed ar fara menyn am hyd at bedwar diwrnod wedi i'w mam ladd ei hun yn ei chartref.

Cafodd Aimee Louise Evans, 28 oed, ei chanfod yn farw yn ei chartref ym Mhort Talbot ar 7 Ebrill.

Dywedodd heddwas gyda heddlu'r de wrth y cwest fod merch Ms Evans wedi ei chanfod yn y tŷ yn edrych yn ddi-raen.

Cafodd y ferch fach ei chludo i'r ysbyty i gael ei harchwilio gan feddyg.

Dim ateb

Clywodd y cwest fod yr heddlu wedi eu galw i'r tŷ ar Heol Dalton wedi i fam Ms Evans fethu â chael ateb gan ei merch am rai dyddiau.

Bedwar diwrnod ynghynt, roedd Ms Evans wedi gofyn i'w mam, Julie Evans, i fynd â'i merch oddi wrthi am ei bod yn mynd i "orffen pethau", ond bod ei mam wedi dweud wrthi am "beidio â bod yn wirion", gan ofyn beth oedd yn bod.

Fe geisiodd gysylltu â'i merch ar sawl achlysur yn ystod y dyddiau wedi hynny, gan gynnwys galw yn y tŷ, ond methodd â chael ateb.

Roedd mab Ms Evans yn aros gyda'i dad naturiol yn ardal Pen-y-bont ar y pryd.

'Un o'r achosion anoddaf'

Dywedodd y Cwnstabl Clive Morris wrth y cwest mai dyma oedd un o'r achosion anoddaf iddo erioed ddelio ag ef.

"Dywedodd ei mam fod Aimee wastad yn hapus", meddai.

"Dywedodd bod ei phlant wastad wedi cael gofal da - eu bod wastad yn lan, taclus ac wedi cael gofal da."

Ychwanegodd nad oedd yna amgylchiadau amheus i farwolaeth Ms Evans, ac nad oedd yna hanes o broblemau iechyd meddwl.

Clywodd y cwest fod Ms Evans yn yfed alcohol yn gyson gyda'r nos, a'i bod wedi bod mewn mwy nag un perthynas dreisgar yn y gorffennol.

Dangosodd archwiliad post mortem bod lefel uchel o alcohol yng nghorff Ms Evans pan y bu farw.

Cofnododd y crwner Colin Phillips fod Ms Evans wedi marw drwy hunanladdiad.

'Calon fawr'

Wedi'r gwrandawiad, rhoddodd rhai o ffrindiau Ms Evans deyrnged iddi.

"Roedd gan Aimee galon fawr", meddai Charlene Coultier. "Byddai'n mynd allan o'i ffordd i helpu unrhyw un.

"Tasai hi ond wedi codi'r ffôn ac ymddiried yn un o'i ffrindiau, mi fydden ni wedi dod ati mewn dim.

"Chaiff Aimee fyth o'i hanghofio gan unrhyw un ohonon ni - rydyn ni'n ei charu ac yn ei cholli'n fawr."