Oedi ar wasanaeth trên cefnogwyr Cymru o'r gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o gefnogwyr pêl-droed Cymru wedi cyhuddo Trenau Arriva Cymru o "dorri addewid" ar y gwasanaeth trên arbennig i gefnogwyr sy'n teithio o'r gogledd i Gaerdydd.
Llynedd fe ddechreuodd Arriva ddarparu trên arbennig sy'n cludo cefnogwyr o'r gogledd i wylio gemau rhyngwladol yn y brifddinas.
Yn ôl cefnogwyr sy'n teithio i wylio Cymru yn herio Gweriniaeth Iwerddon yng Nghyngrair y Cenhedloedd nos Iau, mae'r trên wedi stopio i adael teithwyr ymlaen heb rybudd yn yr Amwythig a Henffordd.
Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru ei bod hi'n "gwneud synnwyr i adael pobl eraill ar y trên, gan nad oedd hi'n llawn".
'Aros am dros awr'
Roedd Daniel Griffith o Bontnewydd ger Caernarfon, sy'n gefnogwr Cymru, yn teithio ar y trên.
Dywedodd wrth BBC Cymru Fyw fod neb yn ymwybodol pam fod y trên wedi stopio nes i gyhoeddiad ddod ar ôl cyrraedd Henffordd.
"Roedd pawb yn disgwyl gadael Wrecsam a chyrraedd Caerdydd ar amser. Fe 'nath y trên stopio yn yr Amwythig er mwyn gadael pobl ymlaen oedd yn amlwg ddim yn mynd i'r gêm.
"Peth nesa, roedd y trên yn stopio eto yn Henffordd a hyd yn oed mwy o bobl yn dod ymlaen, roedde ni yno am dros awr a neb o Arriva yn dweud dim nes i gyhoeddiad ddod dros y tannoy."
Yn ôl Trenau Arriva Cymru roedd nam technegol ar wasanaeth trên oedd y tu blaen i drên cefnogwyr Cymru, ac roedd y gwasanaeth trên o'r gogledd oedd yn teithio y tu ôl yn llawn.
"Gan mai dim ond 57 cefnogwr Cymru oedd ar y gwasanaeth arbennig, roedd 'na le i dros 100 o deithwyr eraill ar y trên hwnnw, felly roedd hi'n gwneud synnwyr i ni stopio er mwyn cludo teithwyr eraill."
Dywedodd Arriva wrth Cymru Fyw buasai'r trên yn cyrraedd Caerdydd am 16:38, tua hanner awr yn hwyrach na'r disgwyl.
Ychwanegodd Mr Griffith: "Mae Arriva mwy neu lai wedi torri eu haddewid efo cefnogwyr o'r Gogledd. Trên arbennig oedd hon i fod, ond rydan ni'n hwyr yn cyrraedd Caerdydd rŵan."
'Ymddiheuro'
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bel Droed Cymru: "Y broses ydi fod FSF cefnogwyr Cymru yn cwrdd â ni yn weddol gyson, a thrwy hynny mae Arriva wedi eu gwahodd i gynnig gwasanaeth.
"Y cefnogwyr ac Arriva sy'n cytuno ar ble mae'r galw i stopio ar y daith. Y Gymdeithas Bêl-Droed sy'n gwerthu'r tocynnau gan fod yn rhaid bod yn aelod.
"Ond o ran pam fod y tren wedi aros mewn mannau arbennig, bydd yn rhaid trafod gydag Arriva," meddai.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Arriva: "Rydym yn ymddiheuro i gefnogwyr sy'n anhapus fod y gwasanaeth wedi gorfod aros mewn gorsafoedd ychwanegol.
"Roedd hi'n gwneud synnwyr gwneud hynny gan fod nam technegol ar y trên oedd o flaen gwasanaeth cefnogwyr Cymru, ac roedd y gwasanaeth nesaf o'r gogledd yn llawn.
"Roedd lle i dros 100 yn fwy o deithwyr ar drên cefnogwyr Cymru. Mae disgwyl i'r trên gyrraedd Caerdydd 20 munud yn hwyrach na'r disgwyl, felly bydd y cefnogwyr yno mewn da bryd ar gyfer y gic gyntaf.
"Does dim disgwyl i'r gwasanaeth i gefnogwyr fod yn stopio mewn gorsafoedd ychwanegol ar y trên yn ôl i'r gogledd hwyrach ymlaen," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2017