Owen Smith yn cefnogi Vaughan Gething
- Cyhoeddwyd
Mae aelod seneddol Pontypridd Owen Smith wedi datgan ei gefnogaeth i Vaughan Gething yn y ras am arweinyddiaeth Llafur Cymru.
Mae'n dweud ei fod yn cefnogi Mr Gething oherwydd ei fod e am weld ail refferndwm ar delerau Brexit.
Dim ond Mr Gething a Mark Drakeford sydd wedi derbyn digon o gefnogaeth i fod ar y papur pleidleisio.
Mae Mr Drakeford wedi dweud ei fod yn cadw'i opsiynau yn agored ynglyn â'r posibilrwydd o ail bleidlais.
Cafodd Owen Smith ei ddiddymu o'i swydd yng nghabinet yr wrthblaid gan Jeremy Corbyn ar ôl datgan yn gyhoeddus ei fod yn cefnogi ail refferendwm ar unrhyw gytundeb Brexit.
Ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Smith fod yn rhaid i holl wleidyddion Cymru "fynegu eu barn ar Brexit".
Mae'r ymgeiswyr posib eraill Eluned Morgan, Huw Irranca-Davies ac Alun Davies, yn rhannu barn debyg i Mr Gething.
Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Arwyn Jones:
Dyma i chi gyfyng gyngor i rai o aelodau Llafur yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd wedi ymuno a'r blaid oherwydd eu bod yn cefnogi Jeremy Corbyn.
Does dim dwywaith fod Mark Drakeford yn cael ei weld fel yr ymgeisydd sy'n agosaf yn wleidyddol at Mr Corbyn.
Ond mae o, fel Corbyn, wedi gwrthod a chefnogi ail refferendwm ar Brexit. Yn ol Mr Drakeford mae hi'n rhy fuan i wneud hynny.
Ar y llaw arall mae Vaughan Gething wedi bod yn glir iawn am yr angen i roi pleidlais arall i etholwyr.
Felly ai cefnogi'r dyn sy'n cynnig polisiau fwy adain chwith fydd yr aelodau, neu'r dyn sy'n addo pwyso am refferendwm arall?
Wrth gwrs mae hynny yn or-simplistig; mi fydd yna bolisiau ar bob math o bethau eraill fydd yn cael eu trafod ac ennyn cefnogaeth.
Ond mae barn y ddau ddarpar ymgeisydd (a mwy, o bosib) ar y prif bwnc gwleidyddol yn mynd i chwarae rol bwysig yn yr ornest.