Pro 14: Dreigiau 27-22 Southern Kings
- Cyhoeddwyd
Fe sicrhaodd y maswr, Josh Lewis, fuddugoliaeth i'r Dreigiau yn erbyn y Southern Kings yn y Pro 14, diolch i gais funud olaf ganddo.
Roedd y tîm cartref ar y blaen o 17 i 0 wedi chwarter awr, diolch i geisiau gan Ollie Griffiths wedi pedair munud ac Aaron Wainwright ddeg munud yn ddiweddarach.
Fe drosodd Lewis y ddau gais, cyn ychwanegu tri phwynt diolch i gic gosb.
Ond yr ymwelwyr a sicrhaodd y pwynt bonws yn dilyn ceisiau gan Michael Willemse yn yr hanner cyntaf, ac fe fanteisiodd Bjorn Basson ar symudiad wedi tafliad o'r asgell ar ddechrau'r ail hanner.
Daeth eu trydydd cais i Godlen Masimla, a oedd wedi dod oddi ar y fainc, gyda'r maswr Maxisole Banda yn unioni'r sgôr gyda'r trosgais.
Bu'n rhaid i'r Dreigiau aros i Lewis i groesi'r llinell, cicio trosgais a chic gosb i sicrhau mantais o ddeg pwynt.
Er i Yaw Penxe groesi cyn y chwiban olaf i'r ymwelwyr, roedd gan y Dreigiau fantais o bump o bwyntiau.
Wedi'r gêm dywedodd y maswr Josh Lewis nad oedd hi wedi bod yn ornest hawdd o gwbl, a'u bod nhw wedi creu gwaith caled iddyn nhw'i hunain ar adegau, ond eu bod nhw'n falch eu bod wedi dal ati a sicrhau buddugoliaeth.