Digwyddiad Merthyr: dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd
![A465](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/114B3/production/_103353807_a57dc07d-cc84-4c88-a649-cc51ee4d3eda.jpg)
Mae heddlu'r De yn ymchwilio i ddamwain angeuol ar ffordd yr A465 yn gynnar fore Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Gefn Coed, Merthyr Tudful, am 06.10 fore Sul ar ôl i gar Ford Mondeo llwyd daro yn erbyn dyn.
Bu farw'r gwr yn y fan a'r lle, ac mae'r heddlu'n dweud bod ei deulu'n cael cymorth swyddogion arbennigol.
Bu'n rhaid cau yr A465, sef ffordd Blaenau'r Cymoedd, rhwng Cefn a Dowlais am bedair awr tra bod ymchwiliadau'r heddlu'n cael eu cynnal.
Maen nhw'n apelio ar i unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd y ffordd rhwng 5.00 a 6.10 bore Sul, ac a welodd y dyn, i gysylltu â nhw.