Ymddiheuro am ebost am gamau yn erbyn cwmni Ffos-y-Frân

  • Cyhoeddwyd
Ffôs-y-FranFfynhonnell y llun, WIKIPEDIA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith o gloddio yn Ffôs-y-Fran i fod i ddod i ben mewn pedair blynedd

Mae arweinydd Cyngor Merthyr Tudful wedi ymddiheuro ar ôl awgrymu bod yr awdurdod yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn gwaith glo brig mwyaf Prydain am fethu â rhoi arian at y gost o adfer y tir.

Mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys fis Mehefin, cafodd y cwmni sy'n rhedeg gwaith Ffos-y-Frân orchymyn i dalu £5.6m at gostau adfer ac roedd disgwyl taliad erbyn 16:00 ar 27 Gorffennaf.

Wrth gadarnhau nad yw'r swm wedi'i dalu eto, fe ddywedodd arweinydd y cyngor, Kevin O'Neill bod yr awdurdod "yn y broses o ddechau" camau cyfreithiol, ond mae bellach wedi cadarnhau nad dyna'r achos.

Dywedodd bod "dim bwriad o gwbwl i gamarwain" mewn ebost ganddo ynglŷn â'r mater, ond mae'n cydnabod fod geiriad yr ebost "yn gallu awgrymu bod rhain yn gamau newydd, ond nid dyma'r achos ac rwyf yn ymddiheuo yn ddiamod".

Ychwanegodd: "Mae achos Ffos-Y-Fran yn un sy'n parhau ac rwyf yn cael gwybodaeth amdano yn rheolaidd."

Dadleuol

Cyfrifoldeb y cwmni yw adfer y tir ar ôl cael y glo.

Yn yr achos yma, roedd y cwmni dan sylw, Merthyr South Wales Ltd, i fod i dalu'n chwarterol, ond doedden nhw ddim wedi bod yn gwneud hynny.

Mae'r safle uwchben Merthyr Tudful yn un dadleuol ac mae pryder wedi bod ers blynyddoedd am lygredd a sŵn. Ar yr un pryd mae'n gyflogwr pwysig gyda thua 180 yn gweithio yno.

Mae'r gwaith o gloddio am lo yn Ffos-y-Frân i fod i ddod i ben mewn pedair blynedd.

Y bwriad oedd y byddai yna £15m yn y gronfa adfer erbyn hynny, a hynny'n gyfraniad sylweddol tuag at y cyfanswm o tua £60m.