Apêl am gerflun sydd wedi diflannu o eglwys ger Dinbych

  • Cyhoeddwyd
PelicanFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cerflun aur o belican yn ddwy droedfedd o uchder

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth wedi i gerflun gael ei ddwyn o eglwys ger Dinbych.

Daeth i'r amlwg ar 5 Medi fod y cerflun pren o belican, sydd wedi ei baentio'n aur, wedi diflannu o eglwys Sant Dyfnog yn Llanrhaeadr.

Roedd y cerflun - sydd tua dwy droedfedd o uchder - yn cael ei arddangos ger allor yr eglwys, a'r gred yw ei fod wedi ei gymryd o fewn y pythefnos diwethaf.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu'r Gogledd, dolen allanol neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111 gan ddyfynu'r cyfeirnod 18300092317.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Daeth i'r amlwg fod y cerflun wedi diflannu o eglwys Sant Dyfnog ar 5 Medi