Eglwys yng Nghymru i ddarparu ar gyfer cyplau un rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae corff llywodraethu'r Eglwys yng Nghymru wedi cytuno y dylai fod darpariaeth ffurfiol ar gyfer cyplau o'r un rhyw mewn eglwysi.
Fe gytunwyd nad oedd y sefyllfa bresennol yn "gynaliadwy", a chafodd y penderfyniad i ystyried strategaethau newydd ei gymeradwyo drwy bleidlais, gyda 76 o blaid a 21 yn erbyn.
Dywedodd Archesgob Cymru, John Davies, fod yr esgobion yn "unedig yn eu cred nad yw hi'n gyfiawn bod yr Eglwys yn methu a chynnig darpariaeth ffurfiol i'r rheiny sydd mewn perthynas un rhyw".
"Er nad yw canlyniad heddiw yn newid athrawiaeth nac ymarfer yr Eglwys yng Nghymru, rydw i'n falch ei fod yn llywio'r esgobion o ran ein rôl wrth ddarparu gofal bugeiliol ac arweinyddiaeth ysbrydol."
Bydd esgobion nawr yn trafod y mater ymhellach cyn cyflwyno argymhellion.