Ymddygiad treisgar yn parhau'n broblem yn y Parc

  • Cyhoeddwyd
Carchar y Parc Pen-y-bont
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 1,700 o droseddwyr yng Ngharchar y Parc, gan gynnwys 60 o droseddwyr ifanc rhwng 15 ac 18 oed

Mae ymddygiad treisgar yn parhau'n broblem yn un o garchardai Cymru, gyda'r achosion ymhlith troseddwyr ifanc yn "anghymesur o uchel", medd adroddiad.

Nododd adroddiad blynyddol y Bwrdd Monitro Annibynnol (IMB) ar Garchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr fod achosion o gamddefnydd sylweddau hefyd yn parhau'n uchel.

Yn ogystal, dangosodd yr adroddiad blynyddol fod yna "nifer sylweddol" o achosion o hunan-niweidio, a bod pryder am ofal seiciatryddol i bobl dros 65 oed.

Fodd bynnag, roedd canmoliaeth i'r carchar categori B am y modd y mae'n paratoi carcharorion i gael eu rhyddhau.

Mae dros 1,700 o droseddwyr yng ngharchar preifat y Parc, gan gynnwys 60 o bobl ifanc rhwng 15 ac 18 oed.

Heriau

Mae'r rheolwyr wedi recriwtio dadansoddwyr ymddygiad mewn ymdrech i ddelio â phroblemau ymddygiad treisgar a hunan-niweidio.

"Mae'r bwrdd yn poeni fod lefelau digwyddiadau treisgar a cham-drin sylweddau yn y carchar yn parhau'n uchel," medd adroddiad yr IMB.

"Yn debyg i garchardai eraill, mae faint o gyffuriau ac yn arbennig y Spice sy'n mynd i fewn i'r carchar yn her barhaol ac anodd.

"Mae lefelau trais yn parhau'n sylweddol, gyda chanran anghymesur yn dal i ddigwydd yn yr uned troseddwyr ifanc.

"Un ffactor sy'n gwaethygu'r sefyllfa yw'r newid parhaus ym mhoblogaeth pobl ifanc heriol, llawer ohonyn nhw'n dod o'r tu allan i'r dalgylch lleol."

Carchar y Parc

Dywedodd yr adroddiad fod tîm lleihau trais y carchar yn monitro a dadansoddi'r ymosodiadau, y bygythiadau, y bwlio a'r arfau.

Mae'n cydnabod bod rhai o'r bobl ifanc yno oherwydd troseddau o'r lefel mwyaf difrifol, a'u bod yn dod o ardal eang.

Ond nododd yr adroddiad fod y carchar "wedi ei reoli'n dda" a bod diogelwch carcharorion yn "hollbwysig".

Dywedodd cyfarwyddwr y carchar, Janet Wallsgrove, fod yr adroddiad yn "nodi'r heriau sylweddol" sy'n wynebu'r carchar wrth fynd i'r afael â chyffuriau a thrais.

Ar fater cyffuriau, ychwanegodd: "Mae ein cydweithio agos gyda Heddlu De Cymru hyd yma wedi arwain at ddwyn 45 cyhuddiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gydag 17 euogfarn am droseddau o fewn y carchar yn dod o'r rheiny."