Actor yn amddiffyn hawl pobl â chyflwr corachedd i reslo

  • Cyhoeddwyd
Reslwyr Extreme Dwarfanators WrestlingFfynhonnell y llun, Extreme Dwarfanators Wrestling
Disgrifiad o’r llun,

Mae sioeau wedi eu canslo yng Nghaerlŷr ac yn Dorset

Mae actor o Gymru a gafodd ei eni gyda math arbennig o gorachedd wedi mynegi siom ynghylch ymgyrch yn erbyn gornestau reslo rhwng pobl sydd yn byw â'r cyflwr.

Yn ôl James Lusted mae'r unigolion sy'n cymryd rhan yn "ddiddanwyr proffesiynol" ac yn haeddu'r cyfle i ennill bywoliaeth mewn gyrfa o'u dewis.

Dywed yr elusen Restricted Growth Association (RGA) bod sioe Extreme Dwarfanators Wrestling yn "sarhaus eithriadol" ac yn galw ar ganolfannau yng Nghaerdydd ac Abertawe i beidio â bwrw ymlaen gyda threfniadau i'w chynnal yno fis nesaf.

Mae dwy ganolfan yn Lloegr wedi tynnu'n ôl o lwyfannu'r sioe yno oherwydd "cywair yr hyrwyddo".

Gwawdio

Ym marn RGA mae'r gornestau'n ymdebygu i "sioe ryfeddodau" o Oes Fictoria, ac yn gwawdio pobl sydd â chorachedd gyda'r potensial i arwain at aflonyddu a bwlio pobl byr.

Ond mae'r trefnwyr yn eu disgrifio fel "sioe ar gyfer y teulu" sy'n hybu cydraddoldeb ac yn cynnwys "athletwyr proffesiynol".

Ffynhonnell y llun, Three Foot Seven
Disgrifiad o’r llun,

James Lusted oedd cyflwynydd y cyfresi teledu Byd Mawr y Dyn Bach a Taith Fawr y Dyn Bach

"Os maen nhw eisio reslo, gadewch iddyn nhw wneud hynny," meddai Mr Lusted, sy'n 3 troedfedd 7 modfedd o daldra ar ôl cael ei eni gyda math prin o gamdyfiant, Dysplasia Diastroffig.

"Os nad ydach chi'n cytuno â'r peth, peidiwch â mynd i'r digwyddiad. Dwi methu gweld pam fod o'n broblem.

"Dyna sut mae'r [reslwyr] yn dewis byw, dyna sut maen nhw wedi dewis cynnal eu teuluoedd, talu'r biliau... pam na wnawn ni jest rhoi anogaeth a chefnogaeth iddyn nhw wneud hynny.

"Maen nhw'n ddiddanwyr proffesiynol, maen nhw wedi hyfforddi'n dda, maen nhw'n ffit, maen nhw'n cadw eu hunain yn ffit, maen nhw'n mynd i golli arian rŵan.

"Rwy'n deall bod rhai pobol ddim yn licio'r math yma o beth, ond bodau dynol ydyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Extreme Dwarfanators Wrestling
Disgrifiad o’r llun,

Mae reslwyr y sioeau yn dweud bod y penderfyniad i ganslo sioeau yn Lloegr wedi "peri loes" iddyn nhw

Ychwanegodd Mr Lusted, sydd hefyd yn gynghorydd Ceidwadol ar Gyngor Sir Conwy, y byddai'n well ganddo ymgyrchu dros faterion fel gwneud palmentydd yn fwy diogel ar gyfer pobl sy'n defnyddio sgwteri a chadeiriau olwyn.

Mae tocynnau yn dal ar werth ar gyfer sioe Extreme Dwarfanators Wrestling yng Nghaerdydd ar 18 Hydref ac yn Abertawe ar 21 Hydref.