Gohirio penderfyniad cais siediau ieir ger Meifod

  • Cyhoeddwyd
Fferm dofednod

Mae cynghorwyr ym Mhowys wedi gohirio penderfyniad ar gais i godi siediau mewn fferm ddofednod ger Meifod, a fyddai'n treblu'r nifer fwyaf o ieir y gellir eu cadw yno o 100,000 i 300,000.

Dywedodd aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Powys eu bod yn poeni am effaith weledol y datblgygiad yn Fferm Ystym Colwyn, ac maen nhw wedi gofyn am gynlluniau manwl o'r tirwedd cyn y gwrandawiad nesaf i ystyried y cais.

Yn yr un cyfarfod yn Llandrindod, roedd yna benderfyniad unfrydol i gymeradwyo cais ar wahân ar gyfer uned yn Llanwyddelan ger Y Drenewydd ar gyfer hyd at 32,000 o ieir.

Dywedodd rhai aelodau o'r pwyllgor bod y datblygiad posib ger Meifod yn debycach i "ffatri", gan godi'r cwestiwn a fyddai unrhyw ddatblygiad diwydiannol arall yn cael ystyriaeth mewn ardal mor wledig.

Roedd swyddogion cynllunio yn argymell cefnogi'r cais, gan nodi mewn adroddiad bod dim gwrthwynebiadau wedi eu cyflwyno fel rhan o'r ymgynghoriad arferol.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi trwydded i'r safle yn caniatáu hyd at 340,000 o ieir yno ym mis Mai.

Mae elusen Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi galw am strategaeth hirdymor ar gyfer y diwydiant, gan fynegi pryder fod caniatáu cannoedd o geisiadau cynllunio am siediau ieir yn bygwth yr amgylchedd.