Gŵyl i gofio am ddyn fu farw yn ardal Merthyr Tudful

  • Cyhoeddwyd
Lewis PoppFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Lewis Popp yn y gwrthdrawiad yn gynnar yn y bore ar 9 Medi pan gafodd ei daro gan gar Ford Mondeo ar ffordd yr A465 yn ardal Merthyr Tudful

Bydd breuddwyd dyn ifanc gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad angheuol ar yr A465 yn ardal Merthyr Tudful yn cael ei wireddu wrth i ŵyl gerddoriaeth gael ei henwi er cof amdano.

Bu farw Lewis Popp yn y gwrthdrawiad yn gynnar yn y bore ar 9 Medi pan gafodd ei daro gan gar Ford Mondeo.

Cyn ei farwolaeth, ei freuddwyd oedd i drefnu gŵyl o'r enw Poppfest yn ei dref enedigol, Merthyr Tudful.

Bellach, mae'r ŵyl wedi'i threfnu ar gyfer 29 Medi a bydd 20 o artistiaid yn perfformio mewn pabell sy'n dal 2,000 o bobl.

"Unwaith eto, mae galwad wedi mynd allan am gymorth gan bobl Merthyr ac maen nhw wedi ateb," meddai prif leisydd y band lleol Pretty Vicious, Brad Griffiths.

'Teyrnged arbennig'

"Pan oedd Lewis yn fyw, ei freuddwyd oedd llwyfannu gŵyl ei hun a'i alw'n Poppfest.

"Fe wnaethom drafod gyda Redstone Events sy'n trefnu'r Merthyr Rising Festival, a rhyngom rydym wedi llwyddo i drefnu gŵyl mewn deuddydd.

"Byddai'n deyrnged arbennig er cof am ffrind arbennig," meddai.

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad lle cafodd Mr Popp ei ladd.

Mewn teyrnged, dywedodd teulu Mr Popp ei fod yn unigolyn "llawn cariad a gofal a'i fod yn llawn bywyd wrth orchfygu unrhyw anawsterau".

Dywedodd llefarydd ar ran Redstone Events: "Fel arfer mae hi'n cymryd 10 mis i drefnu gŵyl fawr ac nid 10 diwrnod, ond rydym yn caru unrhyw her."