'Pensaer datganoli' yn rhoi ei farn
- Cyhoeddwyd
Mae Ron Davies yn cael ei ddisgrifio yn aml fel 'pensaer datganoli' yng Nghymru, un o'r bobl a luniodd y Gymru fodern pan ddaeth y Cynulliad i fodolaeth yn 1999.
Fis Medi 2018, mae hi'n 20 mlynedd ers iddo drechu Rhodri Morgan i gael ei enwi yn ymgeisydd Llafur i fod yn Brif Ysgrifennydd y Cynulliad. Fel Ysgrifennydd Gwladol roedd eisoes wedi arwain yr ymgyrch i sefydlu'r Cynulliad ym mis Medi 1997.
Ond fis yn ddiweddarach, ymddiswyddodd yn dilyn digwyddiad a ddisgrifiodd ar y pryd fel "moment o wallgofrwydd" ar Gomin Clapham yn Llundain.
Alun Michael ddaeth yn Brif Ysgrifennydd cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol roedd Ron Davies wedi bod yn rhan mor allweddol o'i greu.
Erbyn hyn mae Mr Davies yn 72 mlwydd oed, yn byw yn ardal Caerffili ac yn weithgar gyda Chlwb Rygbi Bedwas. Mae ganddo dri o blant ifanc.
Ond beth mae'n ei feddwl o ddatganoli 20 mlynedd yn ddiweddarach? Beth oedd ei obeithion ar y pryd a beth yw ei obeithion i Gymru ar gyfer y dyfodol? Rhoddodd Mr Davies ei farn i Cymru Fyw.
20 mlynedd o ddatganoli...
O edrych nôl, os fyddai rhywun wedi dweud wrtha' i 20 mlynedd yn ôl (yn enwedig o ystyried pa mor agos oedd canlyniad refferendwm '97) y byddai gennym ni Senedd ddeddfwriaethol yng Nghaerdydd sydd wedi ei dderbyn gan bawb yng Nghymru heblaw am y rheiny ar yr ymylon, mi fyswn i'n hapus iawn.
Os edrychwch ar sut mae'r Cynulliad wedi sefydlu ei hun fel rhan o gyfansoddiad Prydain, mae'n amlwg yn bositif.
Rhywbeth arall positif i mi yw'r ffordd mae'r Cynulliad wedi ceisio mynd ar daith i fod yn agored, cynhwysol a blaengar - ar y cyfan, mae hyn wedi bod yn llwyddiannus.
Ond ar y llaw arall mae'r ochr bolisi wedi bod yn eitha' siomedig.
Gyda'r economi, roedd arian Amcan Un yn rhoi gobaith y byddai economi Cymru yn cael ei thrawsnewid, neu o leiaf yn troi cornel. Dydi hynny yn amlwg heb ddigwydd ac mae hynny'n siomedig iawn.
Mae'r Gwasanaeth Iechyd yma'n parhau i gael problemau strwythurol mawr.
Ac mae addysg wedi bod yn siom fawr hefyd.
Fy ngobaith i oedd drwy roi addysg o dan y chwyddwydr, a gyda gwleidyddion Cymreig yn trio datrys anghenion Cymru, y byddai'r system addysg yn gwella hefyd - ond yn amlwg dydi pethau heb wella a 'dyn ni dal yn tangyflawni.
Felly yn nhermau cyfansoddiadol rwy'n bositif iawn, ond yn nhermau gweithredu polisi mae wedi bod yn fethiant, yn anffodus.
Dyfodol y Cynulliad...
Nes i weithio ar y refferendwm yn 2011 [i gynyddu pwerau deddfu'r Cynulliad], ac roedd e'n eitha' amlwg fod pobl wedi derbyn y Cynulliad, a barn y mwyafrif llethol oedd 'mae gennym ni'r Cynulliad ac mae yma i aros felly beth am roi pwerau digonol iddo'.
Dwi ddim yn rhagweld cynnydd yn y nifer o bobl sydd am ddiddymu'r Cynulliad.
Os 'dych chi'n edrych ar unrhyw drefniant cyfansoddiadol mi fydd nifer fach o bobl fyddai'n pleidleisio i'w ddiddymu.
Pe byddech yn gofyn y cwestiwn am Senedd Prydain fe fyddai yna rai pobl yn dweud 'ie, cael gwared ohoni!'.
Un o'r pethau cynta' wnaeth Nick Bourne [cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru] ar ôl yr etholiad cyntaf i'r Cynulliad oedd sylwi nad oedd modd bod yn blaid gwrth-ddatganoli yn y Cynulliad.
Does dim byd yn sicr ac mae cyfansoddiadau yn gallu newid, ond dwi ddim yn rhagweld y Cynulliad yn cael ei ddiddymu oherwydd plaid ymylol fel UKIP.
Llafur yn rheoli ers 20 mlynedd
Dydi hi ddim yn iach. Un o'r rhesymau nes i ymladd o fewn y Blaid Lafur am system bleidleisio mwy teg na'r 'cyntaf i'r felin' oedd sicrhau bod gennym ni wleidyddiaeth â mwy o blwraliaeth.
Mae [hanes etholiadol y Cynulliad] yn adlewyrchu mai'r Blaid Lafur yw'r fwyaf yng Nghymru. Ond mae hefyd yn dangos gwendidau'r pleidiau eraill, a'r rhaniadau o fewn Cymru - yn ddaearyddol, cymdeithasol a diwylliannol.
Fy ngobaith i oedd am wleidyddiaeth gyda phlwraliaeth, gan symud i ffwrdd o'r 'party-based approach', sydd wedi bod mor amlwg yng ngwleidyddiaeth lleol yng Nghymru ers degawdau.
A gyda'r ewyllys gorau yn y byd, mae'r Cynulliad wedi bod yn pedestrian. Gyda Carwyn Jones a Rhodri Morgan, doedd 'na ddim llawer o arwydd o radicaliaeth neu agenda newydd neu edrych allan.
Yr 20 mlynedd nesaf
Nes i ddweud 20 mlynedd yn ôl mai proses yw datganoli, nid digwyddiad.
Dwi'n meddwl mai'r dyfodol mwyaf tebygol - ac mi fydden i'n gyfforddus ag e - yw rhyw fath o ffederaliaeth.
Pwy a ŵyr be' wneith ddigwydd yng Nghymru?
Os siaradwch chi â phobl o wahanol bleidiau, mae 'na ryw awydd i ailfeddwl ein trefniant cyfansoddiadol, drwy gomisiwn brenhinol neu be' bynnag, a chymryd hi allan o wleidyddiaeth bleidiol a thrin y mater mewn ffordd resymol.
Does gen i ddim byd yn erbyn yr egwyddor o annibyniaeth i Gymru. Ond pan 'dych chi'n cael y trafodaethau yma, mae'n rhaid i chi ofyn: "cael annibyniaeth o beth?"
Does dim modd cael annibyniaeth oherwydd cymhlethdodau'r byd modern - eich arian, eich economi, does 'na ddim annibyniaeth o'r cwmnïau mawr rhyngwladol neu'r systemau banc, o'r Cenhedloedd Unedig, o gytundebau neu o NATO.
Mae ychydig bach fel y ddadl Brexit, lle mae rhywun yn codi baner a dweud "dyma dwi eisiau", heb ddweud ein bod yn deall y goblygiadau i gyd.
Dwi ddim yn teimlo fy mod yn genedlaetholwr Prydeinig, nac erioed wedi bod. Pan oeddwn i'n y Senedd am 20 mlynedd fe roeddwn yn ymwybodol iawn o fy hunaniaeth Gymreig, ac roeddwn yn gweld fy hun fel Cymro, nid Prydeiniwr.
Hefyd o ddiddordeb: