Cymru ers datganoli: A yw pethau'n well neu'n waeth?

  • Cyhoeddwyd
Cynulliad a San Steffan
Disgrifiad o’r llun,

A yw pobl wedi sylwi ar wahaniaeth yn eu bywydau ers i rai pwerau symud o San Steffan i'r Cynulliad?

Mae'n 20 mlynedd bellach ers y refferendwm wnaeth arwain at sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru.

Ond ers y bleidlais honno yn 1997, a'r etholiadau cyntaf ddwy flynedd yn ddiweddarach, faint sydd wir wedi newid ym mywydau pobl y wlad?

Yn ôl arolwg newydd mae'n debyg fod mwyafrif pobl Cymru yn teimlo nad yw datganoli wedi gwneud llawer o wahaniaeth i'w bywydau dyddiol, gyda'r farn ymysg y gweddill yn rhanedig am a yw wedi bod yn beth da ai peidio.

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud fodd bynnag bod sefydlu'r Cynulliad wedi rhoi "hyder" i'r genedl, ac wedi arwain at welliannau mewn sawl maes.

'Pobl heb eu plesio'

Yn ôl yr ymchwil ddiweddaraf gan YouGov, mae dau draean o bobl Cymru yn teimlo nad yw datganoli wedi gwneud gwahaniaeth i'w bywydau dyddiol.

Dywedodd 65% o bobl nad oedden nhw'n teimlo bod safonau byw wedi newid llawer ers 1997, tra bod 19% yn credu fod pethau wedi gwella, ac 17% yn teimlo rhyw ffordd arall.

Er hynny, mae'n ymddangos nad yw'r agwedd lugoer tuag at effaith datganoli yn arwain at deimlad nad oes angen y Cynulliad.

Awgrymodd yr arolwg fod tua 65% o bobl o blaid datganoli, canran sydd wedi aros yn weddol gyson ers y 15 mlynedd diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ffigyrau Gwerth Ychwanegol Crynswth (Gross Value Added) yn mesur pa mor gynhyrchiol mae gwahanol ardaloedd yn economaidd

"Mae'r data ddiweddaraf yma yn cadarnhau'r darlun sydd wedi dod i'r amlwg mewn ymchwil flaenorol - mae pobl Cymru wedi derbyn datganoli ac am ei weld yn aros," meddai'r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, wnaeth gomisiynu'r arolwg ar y cyd ag ITV Cymru.

"Fodd bynnag, gallwn ddangos ein bod wedi cyrraedd y pwynt yma er gwaethaf y ffaith nad yw pobl wedi cael eu plesio o gwbl gan y polisïau sydd wedi'u cyflwyno yn ystod 20 mlynedd o lywodraeth ddatganoledig.

"Wedi dweud hynny, mae pobl yn teimlo bod y llywodraeth yn Llundain wedi perfformio'n wael hefyd.

"Yr hyn sy'n wahanol yw'r argraff bod problemau Cymru yn golygu rhywbeth i'r gwleidyddion ym Mae Caerdydd a'u bod yn canolbwyntio arnynt - hyd yn oed os nad yw eu hymdrechion i ddatrys y problemau yma wedi gwneud llawer o argraff arnyn nhw."

Iechyd ac addysg

Disgrifiad,

Carwyn Jones: 'Mae datganoli wedi gwneud gwahaniaeth'

Fe wnaeth yr arolwg hefyd ofyn i bobl a oedden nhw'n teimlo fod datganoli wedi gwneud unrhyw wahaniaeth mewn meysydd polisi penodol fel iechyd ac addysg.

Dywedodd mwyafrif y bobl nad oedd llawer o newid wedi bod yn y meysydd hynny. Roedd y rhai oedd yn meddwl bod newid mawr wedi bod yn fwy tebygol o ddweud bod pethau wedi gwaethygu.

Yn ôl 22% mae'r sefyllfa ym myd addysg wedi gwaethygu yn yr 20 mlynedd diwethaf, o'i gymharu â 18% oedd yn credu fod pethau wedi gwella.

Yr un oedd y farn am iechyd, gyda 32% yn teimlo nad yw pethau cystal ag oedden nhw, ac 18% yn gweld gwelliannau.

Rhai newidiadau eraill yng Nghymru ers 1997:

  • Cyflogau cyfartalog wythnosol wedi cynyddu o £301 i £492, ond y bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU wedi cynyddu rywfaint hefyd;

  • Canran y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru wedi gostwng o 27% i 23% - ond bellach dyma'r lefel uchaf yn y DU;

  • Pobl nawr yn byw yn hirach, gyda'r oed byw disgwyliedig yn codi o 74 i 78.5 i ddynion, ac o 79 i 82 ar gyfer merched;

  • Llai yn ysmygu ac yn yfed yn drwm, gydag amcangyfrifon fod tua 65,000 yn llai o bobl yn ysmygu ers y gwaharddiad yn 2007;

  • Cynnydd sylweddol yn nifer y busnesau micro sy'n cyflogi llai na 10 person - o 159,000 yn 2003 i 237,000 yn 2016;

  • Gostyngiad o 40% yn nifer y bobl sy'n cael eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiadau ffyrdd;

  • 84% o gartrefi wedi eu cysylltu i'r we, o'i gymharu â llai na 10% 20 mlynedd yn ôl.

Mae Carwyn Jones wedi cyfaddef fod heriau wedi bod i rai gwasanaethau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd ac ysgolion yn ystod y cyfnod hwnnw.

Ond mae wedi amddiffyn record ei lywodraeth Lafur yn y meysydd hynny, gan ddweud fod ffigyrau eraill fel y lefelau diweithdra wedi gwella ers 1997.

"Nawr mae Senedd gyda ni, mae llywodraeth gyda ni. Mae rhai pobl yn cytuno gyda beth ni'n 'neud, rhai ddim," meddai.

"Ond y pwynt yw bod pobl yn gallu pleidleisio nawr ac maen nhw'n gallu rheoli pa fath o lywodraeth maen nhw'n cael."

Dywedodd Ron Davies, arweiniodd yr ymgyrch dros ddatganoli 20 mlynedd yn ôl, nad yw'r Cynulliad wedi cyflawni newid.

"Mae wedi'i sefydlu nawr ond mae'n rhaid iddo ofyn cwestiynau anodd iawn i'w hun," meddai.