Pensiynau cyn-weithwyr cwmni dur ASW yn cael eu 'dwyn'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-weithwyr yn y diwydiant dur yn ne Cymru yn honni eu bod eu budddaliadau yn cael eu "dwyn".
Aeth y cwmni o Gaerdydd, Allied Steel and Wire (ASW), i'r wal yn 2002 gan olygu bod gweithwyr yn wynebu colli eu pensiynau.
Ar ôl ymgyrchu yn llwyddiannus, credai'r gweithwyr eu bod wedi sicrhau 90% o'r arian oedd yn ddyledus iddynt - ond oherwydd effaith chwyddiant, mae rhai yn honni mai dim ond hanner y maen nhw'n ei dderbyn.
Dywedodd Llywodraeth y DU fod taliadau yn bodloni anghenion cyfreithiol.
'Dinistrio bywydau'
Roedd gan ASW weithfeydd yng Nghaerdydd, Belffast a Sheerness pan aethant yn fethdalwyr, a chollodd tua 1,000 o bobl eu swyddi.
Bu'r ymgyrch i ddiogelu pensiynau a ddilynodd yn un o'r prif ffactorau y tu ôl creu dau gynllun diogelu pensiynau sydd ar gael i weithwyr y DU heddiw.
Mae cyn-weithwyr ASW yn anhapus nad ydynt yn derbyn 90% o'r swm a gytunwyd arno, gan nad yw chwyddiant yn cael ei ystyried gydag arian gafodd ei dalu i'r cynllun cyn 1997.
Yn ôl John Benson, a weithiodd i ASW yng Nghaerdydd am 40 mlynedd, mae llywodraethau olynol yn "dinistrio bywydau drwy beidio â sicrhau ein bod ni'n derbyn y 90% llawn".
"Mae'r peth yn warthus mewn gwirionedd, y ffaith ein bod ni'n dal i ymladd am rywbeth sy'n berchen i ni ar ôl 16 mlynedd," meddai.
Ychwanegodd bod rhai o'r gweithwyr nawr yn derbyn cyn-lleied a hanner yr arian yr oeddent yn ei ddisgwyl.
'Anodd iawn'
Dywedodd y cynghorwr pensiynau, Tom McPhail, y byddai cytuno i alwadau'r cyn-weithwyr yn gallu costio "cyfran helaeth o £1bn".
Ychwanegodd y byddai modd i'r llywodraeth ganfod yr arian, ond rhybuddiodd y gall fod yn "anodd iawn" i'r pensiynwyr ailagor y ddadl mewn cyfnod ariannol mor anesmwyth.
Yn ôl llefarydd ar ran Adran Gwaith a Phensiynau'r llywodraeth, nid yw'r taliadau a wnaed cyn mis Ebrill 1997 wedi eu haddasu yn ôl chwyddiant gan nad oedd hyn yn ofyn cyfreithiol ar y pryd.