Gwaith ffordd ar yr A55 i bara am bum wythnos

  • Cyhoeddwyd
A55 Llanddulas signFfynhonnell y llun, Google

Mae disgwyl i yrwyr yn y gogledd wynebu oedi o bum wythnos o ddydd Llun ymlaen wrth i ran orllewinol yr A55 gau ar gyfer gwaith atgyweirio pont.

Un lôn fydd ar agor i bob cyfeiriad ar gyffordd 23 yn Llanddulas yn Sir Conwy.

Yn ôl y cynghorydd lleol James Lusted, mae "angen" gwneud y gwaith, ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y gwaith atgyweirio yn hanfodol.

Mae disgwyl i waith ar ran ddwyreiniol y ffordd ddigwydd flwyddyn nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod ffordd yr A55 o gyffordd 11 wedi bod ar agor am 501 diwrnod yn ystod y dydd yn ddi-dor ers Ebrill 2017.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Gogledd-Chanolbarth

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Gogledd-Chanolbarth

Dywedodd y Cynghorydd James Lusted ar raglen y Post Cyntaf fore Llun: "Mae'n siŵr fod y gwaith yn mynd i achosi problemau dros y pum wythnos nesa', ond mae'r gwaith angen cael ei wneud.

"Mae'n rhaid i'r gwaith 'ma gael ei wneud i gadw pobl a gyrwyr yn saff ac wrth gwrs, i wneud y lonydd i lifo'n well yn y dyfodol."

Ychwanegodd bod modd i'r dargyfeiriadau traffig gynnig hwb i economi pentrefi llai'r ardal, ond bod hefyd potensial i "achosi problemau i'r ffyrdd yna, ac yn y dyfodol, fydd rhaid i ni drwsio'r ffyrdd yna hefyd".

Bydd y manylion diweddaraf am lif y traffig i'w gweld ar wefan Traffig Cymru, dolen allanol.