Anorecsia a fi: Byw gydag anhwylder bwyta

  • Cyhoeddwyd
Mair Elliott

Sut beth ydy byw ag anhwylder bwyta, neu anorecsia?

Diolch i ddewrder un ferch 21 oed o Sir Benfro, cawn syniad o'r hyn sy'n wynebu pobl â'r cyflwr mewn cyfres o eitemau ar raglen Bore Cothi BBC Radio Cymru drwy'r wythnos hon.

Er i Mair Elliott gael ei geni yng Nghaerdydd, fe symudodd i Sir Benfro pan oedd hi'n chwech oed. Tua'r adeg yma, dechreuodd sylweddoli ei bod hi'n wahanol i'r plant eraill yn yr ysgol.

Cafodd wybod fod ganddi awtistiaeth, ac yn raddol fe ddechreuodd ddioddef o iselder a gorbryder. Yn sgil hynny, daeth yr anorecsia.

Ar hyn o bryd, mae Mair yn dilyn cynllun bwyd pwrpasol mewn ymgais i ddelio â'r cyflwr. Dyma ei stori.

'Pob pryd bwyd mor anodd'

Sa'i moyn colli bywyd fi i anorecsia.

O'n i'n trapped yn yr anorecsia. O'n i ddim yn gwybod sut i fyw hebddo - dwi dal ddim. Mae dal yn rhan mawr o bywyd fi.

Mae'r recovery yn mynd i fod bach fel dysgu fy hun sut i fwyta eto achos sai'n gwybod sut i 'neud e.

Fi'n gweld y dietician pob wythnos a ma' hi'n edrych ar y cynllun bwyd a ma' hi'n cymryd pwyse fi.

Fi ddim yn edrych ar pwyse fi achos sa'i moyn edrych ar y scales yn mynd lan achos bydde hynna ddim yn help o gwbl.

Ma' pob pryd bwyd mor anodd achos 'na'i gyd fi'n gallu clywed yw'r anorecsia yn gweiddi "paid bwyta hynny... ti'n dew" a phethe fel 'na.

[Mae] corff fi'n oer, ond [mae] meddwl fi'n oer hefyd.

Disgrifiad,

Mair Elliott yn trafod byw gydag anhwylder bwyta, neu anorecsia

Ma' rhaid i fi gynllunio popeth fi'n bwyta. 'Sdim byd yn mynd i ceg fi os na bod fi wedi cynllunio fe ynghynt.

'Sdim hawl 'da fi 'neud unrhyw ymarfer corff. Yn y gorffennol fi 'di gorddefnyddio ymarfer corff er mwyn colli pwyse. Fi wedi 'neud lot o damage i corff fi.

Unwaith ti 'di rhoi y pwyse ar a chi'n bwyta'n iawn, mae'r anorecsia dal yna. Weithie mae'n waeth achos ti'n pwyso mwy.

Fi'n hapus mewn ffordd achos fi'n gwybod fod dilyn y cynllun bwyd yn bwysig i Mam a Dad, yn bwysig i'r dietician, yn bwysig i bobl eraill.

Ond fi ffeili teimlo'n hapus fy hun achos 'na'i gyd fi'n gallu meddwl am yw pa mor dew fi'n teimlo a faint o fwyd fi'n gorfod bwyta achos dyw bwyta gymaint o fwyd ddim yn 'neud sense i fi.

Fi'n casáu'r ffordd mae corff fi'n newid. Casáu'r ffordd fi'n rhoi pwyse ar.

Pan fi'n edrych yn y drych 'na'i gyd fi'n gallu gweld yw'r fat ac mae'n 'neud i fi deimlo'n sick.

Fi ddim moyn rhoi pwyse ar. A nawr ma' rhaid fi cario 'mlaen dilyn y cynllun bwyd pan yr unig beth fi moyn 'neud yw colli pwyse.

Ma' pob rhan o meddwl fi yn sgrechen yn dweud bod rhaid i fi golli pwyse, fi'n edrych mor dew.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mair wedi siarad am bwysigrwydd gwasanaeth iechyd meddwl i bobl ifanc yn y gorffennol

Fi'n casáu corff fi ac mae'n 'neud fi bron yn grac.

Pob tro ma' coese fi'n cyffwrdd pan fi'n cerdded, fi'n gallu teimlo fe a ma'r anorecsia yn gweiddi arna'i, ma' pobl yn edrych arna'i achos fi'n dew.

Sa'i moyn bwyta, sa'i moyn rhoi pwyse ar. O'n i'n lico bod yn fach ac yn dene, o'n i'n lico colli pwyse. Sai'n gwybod beth i 'neud nawr.

Ar y llaw arall fi'n gwybod bod rhaid i fi [fwyta] er mwyn gwella.

Gobeithio yn y dyfodol, wrth i mi ddilyn y cynllun bwyd, fyddai'n teimlo'n llai diflas a bydd hapusrwydd yn cymryd drosodd. Ar y funud dwi'n gweld hi'n anodd gweld hynny.

Y peth fi moyn yw i fod yn hapus, i gael rhyw fath o gydbwysedd a gwario amser efo teulu fi. Jest i fod yn hapus.