Enwau Cymreig mwyaf poblogaidd y flwyddyn ar fabis

  • Cyhoeddwyd

Chwilio am ysbrydoliaeth i enwi babi newydd-anedig? Neu efallai'n awyddus i wybod pa enwau sy'n ffasiynol y dyddiau yma?

Hon yw'r rhestr ddiweddara' o enwau mwyaf poblogaidd, o darddiad Cymreig, gafodd eu cofrestru y llynedd (2017) yng Nghymru.

Cafodd y ffigyrau eu cyhoeddi fore Gwener, 21 Medi, gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Enwau merched o darddiad Cymreig yng Nghymru yn 2017 (a'r niferoedd):

1. Erin (91)

2. Ffion (88)

3. Seren (78)

4. Megan (77)

5. Mali (71)

6. Alys (57)

7. Nia (48)

8. Cadi (44)

9. Eira (44)

10. Martha (43)

Mae'n ddifyr nodi hefyd bod Efa (40), Elin (37), Nansi (36) a Gwen (34) yn dod i'r 100 uchaf o'r holl enwau - Cymreig neu beidio - am y tro cyntaf. Mae Martha yn y degfed safle ar ein rhestr ni, gan gymryd lle Lowri (41).

Yr enw mwyaf poblogaidd ar ferch yng Nghymru y llynedd, fel yn Lloegr, oedd Olivia. Cafodd 294 o fabis eu henwi yn Olivia yng Nghymru yn 2017.

Enwau bechgyn o darddiad Cymreig yng Nghymru yn 2017:

1. Dylan (150)

2. Harri (127)

3. Osian (115)

4. Evan (81)

5. Elis (70)

6. Jac (64)

7. Rhys (64)

8. Tomos (61)

9. Cai (59)

10. Morgan (58)

Fel yn Lloegr, Oliver oedd yr enw mwyaf poblogaidd yng Nghymru y llynedd - roedd 367 ohonyn nhw.

Yr enwau poblogaidd Cymreig i fethu â chyrraedd ein 10 uchaf ni oedd Ioan (52), Macsen (52), Hari (38) a Gruffydd (36).

I gael y wybodaeth yn llawn ar wefan ONS, cliciwch yma., dolen allanol

Hefyd o ddiddordeb:

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw