Matthew Rhys yn ennill un o brif wobrau'r Emmys
- Cyhoeddwyd
Mae'r actor o Gaerdydd, Matthew Rhys wedi cipio un o brif wobrau'r noson yn seremoni'r Emmys yn Los Angeles.
Daeth i'r brig yng nghategori'r actor gorau mewn cyfres ddrama am ei berfformiad yn The Americans.
Mae wedi cael ei enwebu am y wobr ddwywaith o'r blaen am ei bortread o'r cymeriad Phillip Jennings.
"Mae rhannau fel hyn yn brin," meddai, wrth dderbyn y wobr.
'Tragwyddol ddyledus'
Ychwanegodd yn ei araith y byddai'n "dragwyddol ddyledus" i Joe Weisberg - yr awdur, cynhyrchydd teledu a chyn-swyddog CIA sy'n gyfrifol am greu'r gyfres.
Mae The Americans yn dilyn hanes dau ysbïwr o Rwsia sy'n byw yn yr Unol Daleithiau yn y cyfnod wedi i Ronald Reagan ddod yn arlywydd.
Y KGB sydd wedi trefnu i'r ddau briodi a symud i Washington DC gan ffugio bod yn Americanwyr.
Daeth y gyfres i ben yn gynharach eleni wedi 75 o benodau.
Cymar Matthew Rhys, Keri Lynn Russell sy'n portreadu ei wraig, Elizabeth Jennings, yn y gyfres.
Dywedodd mai hithau "yw'r ddynes wnaeth gael y wobr yma i mi mewn gwirionedd, trwy sefyll o'm mlaen a rhoi lan 'da fi.
"Does gen i mo'r geiriau, does gen i mo'r amser i wneud cyfiawnder â thi, Keri Lynn heb law diolch," meddai.
'Prowd iawn'
Dywedodd cyfnither yr actor, y golurwraig Elain Edwards - sydd hefyd yn byw yn Los Angeles - ei bod yn "browd iawn ohono".
"Mae o wedi gweithio'n galed - mae'n neis gweld o'n cael y clod i gyd rŵan," meddai wrth Post Cyntaf.
"Mae o wedi bod yn rhan heriol. Mae o'n cael chwarae rhannau gwahanol o fewn y sioe... o fewn y cymeriad Rwsiaidd, mae o'n cogio bod yn bobl wahanol."
Disgrifiodd sut y bu'n rhaid iddi ei gyfarfod ar jet preifat er mwyn ei baratoi ar gyfer y seremoni ar ôl iddo hedfan o Pittsburg ble mae'n cymryd rhan mewn ffilm gyda Tom Hanks.
"Mae o'n anhygoel o beth, ond dwi'n meddwl bod o'n mynd yn eitha' nerfus yn meddwl tasa fo'n ennill - er bod o isio ennill - mae ganddo gymaint o ofn gorfod siarad yn gyhoeddus i dderbyn y wobr - dyna o'dd yn ei boeni fo fwya'."