Cyfoeth Naturiol Cymru i atal hela ffesantod ar dir cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd
FfesantFfynhonnell y llun, Thinkstock

Ni fydd modd hela ffesantod ar dir cyhoeddus yng Nghymru, yn dilyn adolygiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae'r sefydliad, sydd ar hyn o bryd yn prydlesu pedwar coetir yng nghanolbarth Cymru i gyrchoedd hela, wedi pleidleisio i atal gwneud hynny pan fydd eu cytundebau yn dod i ben ym mis Chwefror 2019.

Daw yn sgil llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, a ddywedodd bod Llywodraeth Cymru, sy'n berchen ar y tir, yn erbyn parhau i hela yno.

Dywed Animal Aid bod potensial i ddefnyddio'r tir "ar gyfer nifer o bethau positif", ond mae'r Countryside Alliance a'r Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Brydeinig wedi beirniadu'r penderfyniad.

Yn ogystal, ychwanegodd cadeirydd dros-dro CNC ei bod am "wneud y mwyaf o'r tir maen nhw'n ei reoli" a bod eu penderfyniad yn "adlewyrchu gofynion Deddf Amgylchedd Cymru".

Defnydd 'positif' i'r tir

Clywodd cyfarfod gweithredol CNC nad oedd unrhyw un yn bridio ffesantod ar dir cyhoeddus bellach, ond bod trwyddedau hela yn caniatáu i rai adar gael eu cadw mewn corlan.

Dywedodd Cadeirydd dros-dro CNC, Dr Madeleine Havard, bod y pwnc wedi ysgogi ymateb aruthrol gan y cyhoedd.

Dywedodd Dr Havard: "Rydym wedi cymryd yr amser i adolygu'r holl wybodaeth a roddwyd i ni gan ystod eang o ddalwyr. Rydym yn hyderus fod gennym ddatganiad sy'n adlewyrchu gofynion Deddf Amgylchedd Cymru."

Dywedodd Fiona Pereira, o'r grŵp ymgyrchu Animal Aid, ei fod yn fuddugoliaeth ar ran adar sy'n cael eu hela.

"Dwi'n credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth i'r ffordd mae'r tir yn cael ei ddefnyddio, gan obeithio bydd y tir yn gallu cael ei ddefnyddio er mwyn addysgu neu gadwraeth.

"Gall gael ei ddefnyddio ar gyfer nifer o bethau positif, ac nid ar gyfer camp ddinistriol, waedlyd, farbaraidd o'r oes o'r blaen."

Colli swyddi

Er hynny, roedd y drafodaeth hefyd wedi ysgogi ymateb cryf gan rai a oedd eisiau i'r prydlesau i aros yr un fath.

Dywedodd Rachel Evans, cyfarwyddwr Countryside Alliance Cymru: "Mae rheoli coetiroedd yn allweddol i lwyddiant rheoli cyrch hela, ond beth maen nhw wedi gwneud heddiw yw colli cannoedd os nad miloedd o oriau o waith cadwraeth, sydd wedi cael ei wneud yn rhad ac am ddim."

Yn ogystal, ychwanegodd: "Mae'n debyg fydd y ciperiaid bellach yn colli eu swyddi, ond nid dim ond eu swyddi, mae'n effeithio'r gymuned gyfan."

Mae'r Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Brydeinig wedi dweud eu bod "wedi synnu" bod safbwynt CNC "wedi gallu cael ei newid gan ddeisebu radical grwpiau eithafol".

"Mae Gweinidog yr Amgylchedd wedi porthi blys eithafwyr hawliau anifeiliaid ac yna wedi gorfodi eu safbwynt ar CNC, yn groes i'r dystiolaeth gafodd ei gyflwyno gan adolygiad cynhwysfawr ac ymgynghoriad cyhoeddus i ddyfodol saethu ar dir cyhoeddus Cymru."

Dywedodd Ian Danby, pennaeth bioamrywiaeth y Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Brydeinig, fod hela ffesantod yn "fuddsoddiad" i'r amgylchedd.