Chwalfa arall i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
Darren StevensFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Darren Stevens (heb gap) oedd arwr Caint

Mae Morgannwg wedi cael cweir arall ym Mhencampwriaeth y Siroedd gan golli o fatiad a 172 rhediad yn erbyn Caint.

Fe osododd Caint darged enfawr i Forgannwg drwy sgorio 436 fel ymateb i fatiad cyntaf Morgannwg o 186, ac roedd rhaid i dîm Robert Croft sgorio 250 er mwyn gorfodi Caint i fatio eilwaith.

Ond roedd y batwyr yn brin o'r nod o bell.

Dechreuodd Morgannwg y trydydd diwrnod ar 33 am bedair wiced, ond fe ddisgynnodd y wicedi eraill yn gyflym ddydd Iau.

Cyn cinio roedd Morgannwg i gyd allan am 78.

Seren y bowlwyr oedd Darren Stevens a gafodd ffigyrau o bum wiced am 24 rhediad yn yr ail fatiad.

Sgoriwr uchaf Morgannwg oedd Jack Murphy (22) oedd yn un o ddau fatiwr yn unig i gyrraedd ffigyrau dwbwl.

Dyma'r pedwerydd tro i Forgannwg golli o fwyw na batiad yn y bencampwriaeth y tymor hwn, a'r wythfed golled yn olynol ymhob cystadleuaeth.