Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 0-5 Manchester City

  • Cyhoeddwyd
Caerdydd v Man CityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ilkay Gundogan sgoriodd trydedd gôl Man City yn y fuddugoliaeth o 5-0 yng Nghaerdydd.

Llwyddodd Manchester City i sgorio pum gôl yn erbyn Caerdydd wrth i'r Adar Gleision barhau i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Wedi pwysau anferthol ar amddiffyn Caerdydd, daeth gol gyntaf Man City wedi 31 o funudau.

Ar ei 300fed ymddangosiad i'r clwb fe rwydodd Sergio Aguero yn dilyn pas ar hyd y cwrt cosbi gan Bernado Silva.

Tri munud yn ddiweddarach fe ddyblodd Man City eu mantais. Croesiad gan sane a pheniad Bernado Silva yn hedfan dros ben Etheridge yn y gôl i Gaerdydd.

Gyda dau funud yn weddill o'r hanner fe sgoriodd Man City eto.

'Dwy gôl i Mahrez'

Raheem Sterling osododd y bel i lwybr Gundogan a darodd ergyd bwerus i gornel ucha'r rhwyd.

Fe ddechreuodd yr ail hanner gyda Man City yn llwyr reoli'r chwarae.

Wedi pum munud do'r ail hanner daeth oedi hir yn y chwarae ar ôl i gefnwr dde Caerydd, Lee Peltier gael ei gario oddi ar y maes gydag anaf.

Wedi 66 munud roedd hi'n 4-0. Croesiad Gundogan o'r asgell chwith a Mahrez oedd yn y fan a'r lle i sgorio ei gôl gyntaf i'r clwb.

Daeth pumed gôl yr ymwelwyr gyda dau funud yn weddill o'r 90.

Mahrez gyda'i ail o'r gêm gydag ergyd bwerus o du fewn i'r cwrt cosbi.