Cynghrair Cenedlaethol Lloegr: Sutton Utd 3-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Wrecsam o 3-0 oddi cartref yn erbyn Sutton Utd ddydd Sadwrn.
Fe roddodd Jamie Collins y tîm cartref ar y blaen o'r smotyn wedi 15 munud yn dilyn tacl flêr gan gapten Wrecsam Shaun Pearson.
Ugain munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Kieron Cadogan i ddyblu mantais Sutton.
Gydag eiliadau yn weddill o'r hanner cyntaf roedd Wrecsam lawr i 10 dyn ar ôl i Luke Summerfield weld cerdyn coch am dacl beryglus.
Sgoriodd Craig Eastmond trydedd Sutton chwe munud fewn i'r ail hanner.
Mae'r golled yn golygu fod Wrecsam wedi llithro i'r trydydd safle yn y tabl.