Sefydlwyr Nant Gwrtheyrn yn dathlu pen-blwydd yn 40

  • Cyhoeddwyd
Nant Gwrtheyrn

Mae angen i bob plentyn o oed meithrin ymlaen gael cyfle i dderbyn addysg Gymraeg yn ôl y gŵr fu'n bennaf gyfrifol am sefydlu'r ganolfan iaith genedlaethol yn Nant Gwrtheyrn, Dr Carl Clowes.

Y penwythnos hwn mae hi'n union 40 mlynedd ers sefydlu Ymddiriedolaeth y Nant.

Pan gafodd Dr Clowes y weledigaeth o sefydlu'r Ganolfan Iaith dywedodd "ar y pryd roedd pobl yn meddwl fy mod yn hanner call".

Y meddyg gafodd y freuddwyd o ddefnyddio hen bentre' chwarel oedd wedi bod yn wag ers 20 mlynedd i sefydlu canolfan er mwyn i bobl ddysgu Cymraeg.

"Roedd hi'n frwydr ryfeddol oherwydd ar y dechrau roedd pobl yn credu nad oeddwn yn hanner call," meddai.

"Mae'n rhaid cofio pa mor ar i lawr oedd y pentre', oedd y tai i gyd yn adfeilion - doedd dim ffordd gall i lawr i'r pentre', dim trydan, dim dŵr dim carthffosiaeth, dim ffôn.

"Roedd o'n sgerbwd o bentref, roedd y bobl olaf wedi symud allan yn 1959."

'Peiriant Cymreigio'

Dywedodd Dr Clowes y bod dau brif beth wedi gwneud sefydlu'r ganolfan iaith yn bosib.

"Dechrau 1970au roedd gennych chi ddeddf iaith 1967 oedd yn rhoi rhyw fath o statws i'r Gymraeg a'r Saesneg, a chyrff cyhoeddus yn dechrau diwallu anghenion y ddeddf ac yn methu penodi pobl i swyddi yn aml iawn oherwydd nad oedd ganddynt gymhwysedd iaith.

"Felly o ni'n meddwl bod angen rhyw beiriant, peiriant Cymreigio, a rhowch y ddau beth yna at ei gilydd - yr angen am beiriant Cymreigio a'r angen i greu gwaith ar y llaw arall.

"Roedd gennym le arbennig iawn dros y mynydd - pam lai trio cael y lle?"

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd hen adeiladau'r pentref eu haddasu ar gyfer bod yn llefydd i aros a dysgu

Berwyn Evans, un o ymddiriedolwyr Y Nant sydd newydd ymddeol ar ôl bron i 40 mlynedd, gafodd y dasg o ailadeiladu'r pentre'.

"Roedd hin anferth o dasg. Beth oedd yn ysgafnu'r dasg oedd y freuddwyd i ailadeiladu'r hen bentref ac i achub yr iaith," meddai Mr Evans.

"Roedd hwnnw fatha rhyw olau yn y môr i ni gyd fachu amdano."

"Mi oedd o leiaf chwech i saith mlynedd o waith - oedd y toeau wedi mynd, lot o waliau tu allan 'di mynd, oedd hi'n edych yn flêr a natur yn cymryd drosodd.

"Roedd angen rhywun fatha Carl - 'de ni ddim yn rhoi hanner digon o barch i Carl Clowes, mae'n ddyn anhygoel.

"Dwi ddim yn meddwl bod prosiect tebyg iddo yng Nghymru nac ym Mhrydain Fawr, pentref cyfan wedi dod yn fyw."

Disgrifiad o’r llun,

Y criw yma oedd y cyntaf i gael gwersi Cymraeg yn y Nant, yn ystod Pasg 1982, a hynny yn nhŷ teras Dwyfor

Dywedodd Dr Clowes fod y cynllun wedi llwyddo i wireddu'r ddau nod gwreiddiol.

"Erbyn hyn i ni'n cyflogi tua thri dwsin o bobl i gyd yn Gymry Cymraeg o'r ardal, ac mae hwn yn hwb i'r economi'r ardal.

"O ran hyder i'r iaith does dim dwywaith, mae pobl yn dod o bob man yn y byd ar gyrsiau iaith - dwi'n hapus gyda'r ffordd mae pethau yn symud ymlaen.

"Dwi'n gweld nifer yn dod yma yn dweud 'pe faswn i wedi cael cyfle fel hyn pan o ni'n ifanc yn yr ysgol byddwn wedi manteisio arni.

"Dwi'n credu bod y system addysg wedi gadael ni lawr - ond yr allwedd yw sicrhau bod pob plentyn o gyfnod cynnar iawn - meithrin ymlaen - yn cael cyfle i gael addysg Gymraeg."

Buddsoddiad yn y Gymraeg

Daw ei sylwadau ddiwrnod ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi sut y byddant yn gwario £51m i hybu addysg Gymraeg.

Dywedodd llefarydd y bydd yr arian yn cael ei wario ar "gefnogi tua 41 o brosiectau mewn 16 awdurdod lleol, a chreu 2,818 o lefydd ysgol a gofal plant ychwanegol i ddysgwyr Cymraeg".

Wrth gyhoeddi'r cynllun, dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan bod datblygu addysg Gymraeg yn "hanfodol" yn y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a bod y cynllun yn cymryd "camau clir" tuag at hynny.