Pro 14: Gleision 37 - 13 Munster

  • Cyhoeddwyd
Willis HalaholoFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Willis Halaholo wnaeth creu dau gais cyntaf y Gleision cyn mynd ymlaen i sgorio cais ei hun

Mae Gleision Caerdydd wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor yn y Pro14 mewn gêm gyffrous yn erbyn Munster ym Mharc yr Arfau.

Fe wnaeth y canolwr Willis Halaholo greu dau gais yn yr hanner cyntaf i Nick Williams a Tomos Williams, cyn sgorio cais ei hun cyn diwedd y gêm.

Pwynt o fantais - 14 i 13 - oedd gan y tîm cartref ar yr egwyl wedi ceisiadau asgellwr Munster, Andrew Conway.

Daeth rhagor o bwyntiau yn yr ail hanner diolch i gicio Gareth Anscombe a phwynt bowns yn sgil ail gais hwyr gan Tomos Williams.

I goroni'r noson, daeth y blaenwr Macauley Cook i'r maes o'r fainc i gyrraedd y garreg filltir o 150 o ymddangosiadau dros y Gleision, ac fe wnaeth y capten Ellis Jenkins chwarae ei 100fed gêm i'r rhanbarth.