Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan lori

  • Cyhoeddwyd
Car HEddlu

Mae dyn 20 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda lori ar ffordd yr A40 ger Rhaglan, Sir Fynwy.

Roedd y dyn yn cerdded pan gafodd ei daro gan y lori ar y ffordd tu'r gogledd am 02:45 fore Sadwrn.

Fe gafodd cerbyd cyflym y gwasanaeth ambiwlans ei anfon i'r digwyddiad, yn ogystal â chriw ambiwlans.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am unrhyw un sydd gyda gwybodaeth neu fideo ar fwrdd y car allai fod o ddefnydd iddyn nhw, i gysylltu â'r llu.