Dynes yn y llys wedi ei chyhuddo o gam-drin bachgen bach

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron, Yr WyddgrugFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr achos yn parhau yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 26 Hydref

Mae dynes wedi ymddangos yn y llys wedi ei chyhuddo o gam-drin rhyw hanesyddol yn erbyn bachgen ifanc.

Mae Miranda Parry, 42 oed o Wrecsam, yn wynebu saith cyhuddiad o ymosodiad anweddus, dau o anwedduster dybryd gyda phlentyn ac un o achosi dioddefaint diangen.

Mae'r cyhuddiadau yn dyddio 'nôl i 2000 pan roedd hi yn ei 20au cynnar.

Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol gan ynadon Yr Wyddgrug a bydd yr achos yn cael ei yrru 'mlaen i Lys y Goron Yr Wyddgrug.

Bydd Ms Parry yn ymddangos yn y llys ar 26 Hydref.