Trafod sefydlu ardal gwella busnes newydd yn Y Rhyl
- Cyhoeddwyd
Gallai ardal gwella busnes (AGB) gael ei sefydlu yn Y Rhyl mewn ymgais i adfywio'r dref.
Mae yna eisoes 12 o ardaloedd o'r fath wedi eu sefydlu yng Nghymru - o Abertawe i Gaernarfon.
Busnesau sy'n ariannu'r ardaloedd gwella busnes drwy roi cyfraniad sydd gyfystyr â chanran fechan o'u trethi busnes.
Bydd cabinet Cyngor Sir Ddinbych yn trafod y fenter mewn cyfarfod ddydd Mawrth.
Yn ôl y cynlluniau, byddai AGB yn Y Rhyl yn codi £300,000 y flwyddyn dros y cyfnod cychwynnol o bum mlynedd y byddai'n weithredol.
Busnesau fyddai'n penderfynu at beth fyddai'r arian yn mynd.
'Cyfle i fuddsoddi'
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, Hugh Evans, y byddai sefydlu AGB yn gyfle i'r sector breifat "fuddsoddi" yn Y Rhyl.
"Mae pawb yn gwybod bod ochr ariannol llywodraeth leol ddim yn mynd y ffordd iawn," meddai.
"Mae 'na lai o arian cyhoeddus yn mynd ymlaen, ac mae 'na gyfle i'r sector breifat fuddsoddi yn be' maen nhw'n teimlo sy'n addas."
Ychwanegodd y byddai'r AGB yn rhoi "gwerth ychwanegol" i'r hyn mae Cyngor Sir Ddinbych yn ei wneud.
Bydd cyfnod arall o ymgynghori os yw'r cabinet o blaid y prosiect, a bydd yn rhaid i fusnesau lleol hefyd roi sêl bendith i'r fenter mewn pleidlais cyn i'r AGB gael ei sefydlu.