Agor a gohirio cwest i farwolaeth Cymraes yn Bali

  • Cyhoeddwyd
Marwolaeth Bali
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Natalie Morris tra ar wyliau ar ynys Lembongan, oddi ar arfordir deheuol Bali

Mae cwest wedi agor i farwolaeth dynes 29 oed o Gaerdydd ar noson gyntaf ei gwyliau yn Indonesia.

Cafwyd hyd i gorff Natalie Morris, yn wreiddiol o Ferthyr Tudful, mewn pwll nofio ar 2 Medi yn y fila preifat ar ynys Lembongan, ar arfordir deheuol Bali, lle roedd yn aros gyda'i chariad Andrew Samuel.

Clywodd y gwrandawiad ym Mhontypridd fod y ddau wedi bod allan am swper cyn dod yn ôl i'r fila i yfed ger y pwll nofio.

Aeth Mr Samuel i'w wely tua 00:30. Roedd wedi disgwyl i Ms Morris ei ddilyn ond fe sylwodd am 05:30 nad oedd hi yn y gwely.

Daeth o hyd iddi yn anymwybodol ym mhwll plymio'r fila, ac fe geisiodd i'w hadfywio cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Mae'r ymchwiliad i'r farwolaeth yn parhau yn Bali ac mae'r crwner, Andrew Barkley, wedi gohirio'r achos tan y gwrandawiad llawn ar 23 Ionawr 2019.