Tirlithriad rhwng Dinas a Threherbert wedi ei glirio

  • Cyhoeddwyd
tirlithriad
Disgrifiad o’r llun,

Effeithiodd y tirlithriad ar drenau'n teithio rhwng Dinas a Threherbert

Mae tirlithriad wnaeth amharu ar y gwasanaeth trenau rhwng Dinas yn y Rhondda a Threherbert bellach wedi cael ei glirio.

Yn ystod Storm Bronagh nos Iau ddiwethaf, syrthiodd tirlithriad 40 troedfedd o hyd ar y traciau.

O ganlyniad, nid oedd modd i drenau deithio ymhellach na'r Porth.

Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail bod trên i deithwyr wedi rhedeg eto am 22:46 ar ôl archwiliad nos Lun, ac erbyn dydd Mawrth bod y gwasanaeth yn rhedeg yn ôl i'r arfer.