Glaw trwm Storm Bronagh yn effeithio ar deithwyr

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Aeth y car yma i drafferth yn Cynghordy, yn Sir Gaerfyrddin, ond nid oedd y gyrrwr yn y car

Mae glaw trwm a gwyntoedd cryfion Storm Bronagh wedi creu trafferth i deithwyr ar hyd a lled Cymru ddydd Gwener.

Ar un cyfnod, roedd sawl rhybudd llifogydd mewn grym, ac ar hyn o bryd mae rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd, dolen allanol rhwng 11:00 a 18:00 ddydd Gwener.

Cafodd mwy na 80 o alwadau yn ymwneud â llifogydd eu gwneud i'r gwasanaeth tân, gyda'r de-ddwyrain yn cael ei effeithio'n fwy nag un man arall.

Dywedodd Network Rail bod tirlithriad 40 troedfedd o hyd wedi effeithio ar drenau yn y Rhondda rhwng Dinas a Threherbert, ac fe wnaeth gwerth dros hanner mis o law ddisgyn ym Mhont Senni ym Mhowys.

Disgrifiad o’r llun,

Mae tirlithriad wedi effeithio ar drenau rhwng Dinas a Threherbert

Cafodd nifer o wasanaethau Trenau Arriva Cymru, dolen allanol eu heffeithio gan y tywydd.

Mae tirlithriad rhwng Dinas yn y Rhondda a Threherbert yn amharu ar wasanaethau yn yr ardal yna.

Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru bod "diogelwch teithwyr yn flaenoriaeth allweddol" a bod staff yn gweithio i symud "lot fawr o lanast cyn ei fod yn ddiogel i ailagor y lein".

Bydd bysiau'n cael eu darparu tra bod hynny'n digwydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n debygol y bydd Pont Dyfi ynghau am gyfnod sylweddol oherwydd y llifogydd

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o goed wedi eu dymchwel dros nos, gan gynnwys hon yn Nhregolwyn, Bro Morgannwg

Yn ogystal roedd llifogydd ar y llinell rhwng Machynlleth a Caersws yn amharu ar y gwasanaeth rhwng Aberystwyth a'r Amwythig am gyfnod.

Bu digwyddiad gyda thrên yn taro coeden rhwng Caerfyrddin ac Aberdaugleddau yn gyfrifol am gau'r llwybr hwnnw am gyfnod, ond mae bellach wedi ail-agor.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion tywydd, llifogydd a theithio yn eich ardal chi, ewch i'r gwefannau yma:

Cafodd Heol Aberhonddu ym Merthyr Tudful ei chau i'r ddau gyfeiriad, ac mae'r A483 ger Beulah ym Mhowys a'r A5152 Heol Grosvenor yn Wrecsam hefyd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd.

Cafodd Pont Dyfi ar yr A487 ei chau i'r ddau gyfeiriad ger Machynlleth, ac yn ôl Traffig Cymru, mae camerâu ar hyd yr afon yn dangos "cryn dipyn o orlifo felly mae'r heol yn debygol o fod ar gau am beth amser".

Mae'r heddlu yn Sir Benfro hefyd wedi trydar yn rhybuddio gyrwyr i fod yn ofalus, gan fod coed wedi syrthio ar hyd y ffordd.

Ffynhonnell y llun, Judy Corbett
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i goed arbennig gerddi Castell Gwydir yng Nghonwy gael eu tynnu wedi i lifogydd eu niweidio

Deffrodd Judy Corbett, perchennog Castell Gwydir yng Nghonwy, i weld llifogydd dros erddi'r safle.

Bydd rhaid iddi waredu 10 coeden hynafol oherwydd difrod gan lifogydd.

Yn ogystal, mae difrod i seler y tŷ cofrestredig Gradd 1.