Anafu plismon ar ôl cael ei daro gan gar
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion wedi i heddwas gael ei daro gan gar yn Llangefni.
Cafodd y swyddog ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ond anafiadau nad ydynt yn debygol beryglu'i fywyd.
Toc cyn 15:00 brynhawn Mawrth, camodd heddwas di-iwnifform i gyfeiriad VW Golf tu allan i orsaf betrol Texaco ar Ffordd Glanhwfa yn Llangefni.
Cafodd y swyddog ei fwrw gyda'r car ac fe yrrodd y cerbyd i ffwrdd.
Yn dilyn ymholiadau pellach, cafodd dyn 47 oed ei arestio ar Lôn Penmynydd ym Mhorthaethwy ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol a nifer o droseddau gyrru. Cafodd ei gar ei feddiannu.
Dywedodd y Prif Dditectif Arolygydd, Brian Kearney: "Mae hyn yn ddigwyddiad brawychus. Hoffwn ddiolch i'r staff yn y garej a phobl eraill aeth i helpu'r swyddog.
"Rydym yn apelio i unrhyw un a welodd y digwyddiad difrifol hwn i gysylltu â CID Llangefni."
Dangos y risgiau
Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Richie Green: "Roedd y swyddog yn cynnal archwiliad arferol o'r cerbyd.
"Mae'r digwyddiad yn dangos y risgiau sy'n wynebu swyddogion yr heddlu yn ddyddiol.
"Mae'r ymchwiliad yn dal i fod yn ei ddyddiau cynnar; fodd bynnag, fe allaf gynnig cadarnhad nad yw'r digwyddiad yma wedi ei gysylltu gyda gweithgareddau terfysgol o gwbl."
Mae teulu'r heddwas wedi cael gwybod am y digwyddiad.