Warren Gatland eisiau'r flwyddyn olaf i 'fod yn un dda'

  • Cyhoeddwyd
Warren GatlandFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae hyfforddwr rygbi Cymru, Warren Gatland yn "poeni" am y flwyddyn i ddod, gan ei fod yn benderfynol o adael ei swydd ar nodyn cadarnhaol.

Bydd Gatland yn gadael ei rôl gyda thîm rygbi Cymru ar ôl Cwpan y Byd 2019 yn Japan, yn dilyn 12 mlynedd fel prif hyfforddwr.

Dywedodd Gatland ei fod wedi "mwynhau ei gyfnod yng Nghymru yn arw", ond ei bod hi'n "amser symud 'mlaen".

"Mae'r 12 mis nesaf yn hynod o bwysig... yn enwedig Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd, gan mai ar ein perfformiad yn y cystadlaethau hyn y byddwn ni'n cael ein beirniadu."

Yn ei chwe blynedd gyntaf fel prif hyfforddwr, llwyddodd Cymru i ennill dwy gamp lawn a chyrraedd rowndiau cynderfynol Cwpan y Byd 2011.

Ond, fe gyfaddefodd Gatland ei fod yn "teimlo'r pwysau" wrth iddo agosáu at ei flwyddyn olaf yn y swydd, cyn i Wayne Pivac gymryd yr awenau,

"Dwi'n poeni am y flwyddyn nesaf oherwydd dwi eisiau iddi fod yn un dda," meddai.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Wayne Pivac fydd yn olynu Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru

Bydd Cymru yn yr un grŵp ag Awstralia, Fiji, Georgia ac Uruguay yng Nghwpan y Byd, gydag Awstralia yn ffefrynnau i orffen ar frig y tabl.

Yn ôl Gatland, ni fyddai'n arwain Cymru i Gwpan y Byd y flwyddyn nesaf oni bai am ddau gyfnod i ffwrdd o'r swydd - er mwyn hyfforddi'r Llewod.

"Roedd cael blwyddyn i ffwrdd yn gyfle i adfywio, ac roedd yn dda iawn i mi yn bersonol."

Ychwanegodd: "Os fyswn i wedi parhau yn y rôl yma heb unrhyw fath o newid, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi bod yma am gyhyd."